Dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant 2011
Ar 20 Tachwedd 1989, cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ei fabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig - cytundeb rhyngwladol yw hwn, sy’n diogelu hawliau dynol pob plentyn o dan 18 oed.
Fe allwch chi nodi Diwrnod Byd-eang y Plant trwy:
- Gynnal gwasanaeth arbennig yn eich ysgol – syniadau a gweithgaredd ar gael yma
- Ddweud wrth bobl am ddiwrnod y plant
- Ddweud wrth bobl am y Confensiwn, beth mae’n ei olygu a pham mae’n bwysig.
- Ewch i wefannau ‘Gwneud Pethau’n Iawn’ a ‘Llais Disgyblion Cymru’, edrychwch beth sydd yno, defnyddiwch y deunydd ac ewch ati i ledaenu’r newyddion.
Gweler: www.ccuhpgwneudpethauniawn.co.uk/ciwintroduction.aspx a
www.llaisdisgyblioncymru.org.uk/uwchradd/adnoddau/gweithgareddau-pobl-ifanc/


