Cynadleddau’r Cynghorau Ysgol ym Merthyr yn llwyddiant ysgubol!!
Roedd Cynadleddau’r Cynghorau Ysgol a gynhaliwyd ar Hydref 6ed a 7fed yn rhai cynhyrchiol a llawn hwyl. Tro disgyblion oed ysgol uwchradd oedd hi ar y 6ed, a thro’r disgyblion oed ysgol gynradd ar y 7fed. Yn y digwyddiad i ysgolion uwchradd roedd 49 o ddisgyblion yn bresennol yn cynrychioli tair ysgol uwchradd, y gymuned Sipsiwn-Teithwyr, Timau Troseddau Ieuenctid a rhaglen addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS).
Ddydd Gwener Hydref 6ed, daeth 75 o ddisgyblion ynghyd i gynrychioli 18 ysgol gynradd. Roedd staff Canolfan Orbit bob amser yn barod iawn eu help.
Hefyd yn bresennol ar y ddau ddiwrnod roedd y Maer a’r Cyng. Richard Thomas, yr Hyrwyddwr Materion Plant yn ogystal â’r Maer Ieuenctid, Jamie Scriven a’r Dirprwy Faer Ieuenctid, Scott Thomas. Yn ystod y digwyddiadau, galwodd cynrychiolwyr o’r awdurdod a Llywodraeth Cymru heibio i wrando ar yr hyn yr oedd gan y plant i’w ddweud.


Roedd cyfraniad y disgyblion yn ganolog i’r ddau ddigwyddiad a gofynnwyd iddynt roi eu barn ar y rhesymau y tu ôl i absenoldebau ac am strategaethau gwrth fwlio, yn ogystal â chyfrannu syniadau am iechyd emosiynol a lles a phontio. Hefyd cafodd y disgyblion oed ysgol uwchradd gyfle i ddylunio logo neu boster sy’n cyfleu darlun positif o ysgolion. Mae’r canlyniadau’n dangos doniau creadigol ar waith a byddant yn cael eu defnyddio ar ddeunydd i hyrwyddo presenoldeb.
Yn y gynhadledd uwchradd, cafwyd cyflwyniadau gan Ysgol Uwchradd Afon Taf ar y Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr a darn o ffilm ar yr agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu (SEAL) sy’n cael eu defnyddio yn Ysgol Uwchradd Pen-Y-Dre. Yn y gynhadledd gynradd, siaradodd disgyblion o Goed y Derwen am fanteision y Rhaglen Gymorth a siaradodd disgyblion Gellifaelog am eu profiad o ddefnyddio SEAL yn eu hysgol hwy. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn fodlon siarad o flaen cynulleidfa ac roedd eu hymddygiad yn berffaith.
Roedd y disgyblion yn gweithio’n dda mewn grwpiau a oedd yn cynnwys disgyblion o wahanol ysgolion. Roedd y grwpiau’n trafod materion a oedd yn berthnasol i’w hysgol hwy a hefyd faterion a oedd yn berthnasol i’r ysgolion eraill. Gofynnwyd i’r disgyblion sianelu eu syniadau trwy fap neu grid gan rannu eu casgliadau â’r grwpiau eraill. Roedd y sesiynau adborth ar y diwrnod yn fywiog ac yn cynnig sylwadau y bydd yr awdurdod yn gallu eu hystyried wrth drafod sut i wella’r arferion presennol.
Hoffem ddiolch i ddisgyblion ysgol arbennig Greenfield a fynychodd y gynhadledd ar Ddydd Gwener 7 Hydref am eu cyfraniadau gwerthfawr.
Y mae adroddiad disgybl-gyfeillgar am y gynhadledd a chopi o’r poster ar gael i’w llawrlwytho yma
Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal bob blwyddyn o hyn ymlaen.
Sarah Bowen
Rheolwr Cynhwysiant


