Cymryd Rhan
Mae’na fwy i gyfranogi na phobl yn gofyn eich barn. Dylai fod amrywiaeth o bethau y gallwch fod yn rhan weithredol ohonynt yn eich ysgol, os ydych yn dymuno felly.
Rhai o’r rhain, ar wahan i gyngor ysgol, yw:
- Grwpiau i wneud awgrymiadau am sut i wella dysgu ac addysgu;
- Ysgolion iach;
- Pwyllgorau eco;
- Mentoriaid cyfoedion neu ‘Bydis’;
- Grwpiau SNAG (School Nutrition Action Groups).
Mantais o berthyn i grwpiau felly yw eich bod chi yn cael gwneud gwahaniaeth i’ch ysgol – er eich mwyn chi ac eraill. Gall hyn fod yn foddhaol iawn.
Y mae chwarae rôl gwethredol mewn grwpiau hefyd yn eich helpu i ddatblygu hunan-hyder a sgiliau pwysig fel:
- Gwrando;
- Mynegi safbwynt;
- Negydu;
- Sgiliau trefnu a chyllido;
- Gweithio mewn tîm.
Os hoffech ennill Achrediad fel canlyniad i gyfranogi, rydym wedi datblygu modiwlau gyda Agored Cymru (OCN) a all fod o ddiddordeb i chi.
Cymerwch olwg ar y wefan Cymru Agored.
Wrth gwrs, nid oes rhaid i chi gymryd rhan! Mae hi’n bwysig cael dewis – ond rydym yn gobeithio y cewch gyfranogiad yn hwyl ac y byddwch chi ar eich ennill hefyd!


