Cymerwch ran
Wyt ti eisiau gwella pethau yn dy ysgol di? Oes gen ti syniadau gwych? Wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n gallu gwneud gwahaniaeth, neu nad oes neb yn gwrando ar dy lais?
Mae’r adran hon yn rhoi enghreifftiau o gyfleoedd i gymryd rhan yn dy ysgol di, a sut orau i drefnu dy hun ac eraill. Efallai dy fod ti’n teimlo’n gryf am fwlio, am bethau a fyddai’n helpu iti ddysgu’n well, neu am sut i wella amgylchedd yr ysgol. Yma cei wybod am fentrau y galli di gymryd rhan ynddynt yn yr ysgol, a sut i gymryd rhan yn lleol neu’n genedlaethol os hoffet ti wneud hynny.


