Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf: CyberMentors
25 o ddisgyblion o ysgol Bishop of Llandaff yw’r disgyblion cyntaf yng Nghymru i hyfforddi fel Cybermentors. Cawsant eu hyfforddi gan yr elusen BeatBullying UK. Mae CyberMentors yn ymwneud â phobl ifanc yn helpu a chefnogi ei gilydd ar-lein.
Os yw rhywun yn cael ei fwlio, neu’n teimlo ychydig yn isel, neu efallai bod rhywbeth yn ei boeni a ddim yn siŵr beth i’w wneud neu â phwy y dylai siarad, yna gall fynd at CyberMentors am gymorth. Does dim gwahaniaeth pa mor fawr neu fach yw’r broblem iddyn nhw, neu a ydynt yn cael eu targedu ar-lein neu all-lein, mae CyberMentors yno i wrando arnynt a’u cefnogi.
Mae ein disgyblion yn helpu pobl ledled y DU.


