Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Ysgol Gyfun Sandfields - Ehangu’r cwricwlwm galwedigaethol yn CA4 & Creu Cymunedau Dysgu Disgyblion

Ysgol Gyfun Sandfields

Mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio ar ddwy agwedd ar effeithiolrwydd ysgolion yn Ysgol Gyfun Sandfields.

  • Ehangu’r cwricwlwm galwedigaethol yn CA4
  • Creu Cymunedau Dysgu Disgyblion

Ehangu’r cwricwlwm galwedigaethol yn CA4

Fel rhan o’n cyfraniad cychwynnol at gynllun peilot SEF, fe ddefnyddiom y Proffil Effeithiolrwydd Ysgolion (SEP) i nodi’r meysydd yr ydym yn dymuno’u gwella. Fel ysgol sy’n gwasanaethu ardal o amddifaded economaidd-gymdeithasol, penderfynwyd canolbwyntio ar agweddau fel llais disgyblion, meithrin ag agweddau ar ddarpariaeth o safbwynt ehangu’r llwybrau 14-19 oed.

Un maes ar gyfer datblygu llwybrau 14-19 oedd adeiladu modurdy wedi’i ariannu gan Rhagori, i ddiwallu anghenion lleol, a llenwi’r bwlch o ran darparu astudiaethau technoleg cerbydau modur (a man chwistrellu ac adran curo paneli) ar y safle. Mae llawer o ddisgyblion yn ymddiddori yn y maes hwn, ond cyn hyn, nid oedd unrhyw ddarpariaeth o’r fath yn ysgolion y De. Roedd yn broses hir, ond o’r diwedd, fe gawsom ganiatâd cynllunio ac aethom ati i roi offer yn y modurdy. Rydym wedi dechrau trwy gyflwyno cwrs blasu mecaneg i ddisgyblion Blwyddyn 9, a byddwn yn cynnig cymhwyster Lefel 2 fel un o opsiynau Blwyddyn 10 ym mis Medi. Mae hyn yn cynnig llwybr dysgu i ddisgyblion sy’n ei chael hi’n anodd dilyn cyfyngiadau’r cwricwlwm traddodiadol, trwy roi sgiliau trosglwyddadwy iddynt, a’u helpu i ddeall pam bod rhai o’r sgiliau allweddol yn berthnasol ac yn hanfodol iddynt.

"Mae cyflwyno’r cwrs cerbydau modur wedi sbarduno a chodi dyheadau ein disgyblion mwy galwedigaethol. Mae’r cwrs hwn yn apelio at rai o’n disgyblion mwyaf heriol: mae hyd yn oed disgyblion blwyddyn 7 eisoes yn gofyn ‘beth sydd ei angen arnaf i wneud mecaneg?’ Mae elfen gwyddoniaeth a mathemateg y cwrs o fudd i’r disgyblion mewn pynciau eraill hefyd. Yn fwy na hynny, mae’r cwrs yn golygu bod yr ysgol yn gallu diwallu anghenion y gymuned, gan fod ystâd Sandfields yn cynnwys llawer o fodurdai sy’n gwasanaethu’r heddlu, bysiau a pherchnogion ceir preifat." David Morris, Pennaeth Technoleg, Ysgol Gyfun Sandfields

"Dwi’n ystyried ymuno â’r fyddin fel peiriannydd, felly mae’n help i ddysgu mwy am gerbydau modur".
Tristan Edwards, Blwyddyn 9

"Gyda’r cwrs cerbydau modur, dwi’n bwriadu bod yn fecanig awyrennau gyda’r RAF".
Zac Morrison, Blwyddyn 9

"Dwi’n bwriadu dilyn gyrfa fel mecanig pan fyddai’n hŷn".
Daniel Morris, Blwyddyn 9

Cymunedau Dysgu Disgyblion

Trwy beilota a defnyddio’r SEP, roeddem yn teimlo ei bod hi’n bwysig sefydlu Cymunedau Dysgu Disgyblion y tu mewn a’r tu allan, tebyg i PLC staff. Roeddem yn credu bod modd cyflwyno’r un egwyddorion i ddisgyblion. Buom yn cydweithio â’n hysgol bartner SEF, Pontarddulais, gan drefnu gweithdy undydd rhwng ein cyngor ysgol ni a nhw.

Mae’r disgyblion sy’n aelodau o’r cyngor wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion, ac maent yn cynrychioli croestoriad eang iawn o ran oedran a gallu, gan gynnwys disgyblion o’r uned adnoddau disgyblion. Bu’r grŵp yn trafod fersiwn plant o’r ‘pizza’ SEF, gan gymryd pob darn (fel gweithio gydag eraill) a chreu eu fersiwn eu hunain o’r SEP, gyda’r golofn olaf yn cynnwys tystiolaeth o feini prawf y disgyblion ar gyfer ysgol lwyddiannus - yn amrywio o ‘gwael’ i ‘ardderchog’. Y disgyblion eu hunain baratôdd y ffurflenni.

Fe wnaethant nodi ble’r oedd yr ysgol ar y continwwm yn eu barn nhw, a rhoi gradd i’r ysgol. Yn sgil y gwaith hwn, rydym wedi creu pwyntiau gweithredu i’n symud ar hyd y continwwm (er enghraifft, trwy adolygu’r cytundeb rhwng yr ysgol a’r cartref sydd ar waith ers pedair blynedd ac nad oedd gan y disgyblion presennol unrhyw ran ynddo, gan roi gradd ‘gwael’ inni yn y categori hwn). Ar ôl dechrau gweithio ar y cytundeb rhwng yr ysgol a’r cartref, mae’r disgyblion bellach yn dweud bod yr ysgol yn ‘dda’ o ran yr agwedd hon ar effeithiolrwydd!

Cafodd Cymunedau Datblygu Disgyblion eu datblygu trwy drefnu ymweliadau rhwng ein dau gyngor ysgol i edrych ar arferion da. Ymunodd y disgyblion â’r gwersi, a chawsant gipolwg ar yr amgylcheddau ffisegol. Defnyddiodd ysgol Pontarddulais ein syniad ar gyfer mainc bicnic, a’i wella trwy ddyfeisio meinciau â lle i gadeiriau olwyn. Fe wnaethom ni gymryd at eu syniad nhw o gael lifft i’r llawr cyntaf, gan fod y disgyblion yn teimlo bod ein plant anabl dan anfantais o fethu â chyrraedd y cyfleusterau yno. Fe wnaethant ysgrifennu at y llywodraethwyr a’r AALl, a ymatebodd yn gadarnhaol i’w cais. Bellach, mae gennym lifft yn yr ysgol. Yn wir, mae’r grŵp disgyblion wedi aildrefnu blaenoriaethau’n SDP.

Erbyn hyn, mae Cymunedau Dysgu Disgyblion o Sandfields a Pontarddulais wedi rhoi cyflwyniadau i athrawon, swyddogion Awdurdod Lleol ac aelodau o Lywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys y Gweinidog Addysg. Ar ôl eu cyflwyniad i Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, clywodd y disgyblion bod eu gwaith yn profi ‘os ydych chi’n rhoi cyfrifoldeb i bobl ifanc, maent yn ymddwyn yn gyfrifol.’ Ar ben hynny, dywedodd Karl Napierella, Cyfarwyddwr Castell-nedd Port Talbot ‘eich bod wedi gwneud inni ofyn i ni’n hunain, faint o gyfraniad mae disgyblion yn ei wneud mewn gwirionedd.’

"Mae’n hysgol ni wedi gwella’n aruthrol ers inni gael SEF: er enghraifft, fe wnaeth ymweliad ein cyngor ysgol â Phontarddulais ein helpu i gael lifft newydd er mwyn helpu’r rhai llai abl i fynd i’r llyfrgell.
Caitlin Davies" Bl7

"Syniad fy ngrŵp blwyddyn i yw cael wal graffiti, a ddylai atal disgyblion rhag rhoi graffiti mewn mannau eraill yn yr ysgol, gyda lwc".
Cain Francis, Bl7

"Dwi’n credu bod y cyngor ysgol ac elfen llais i ddisgyblion yr SEF, yn helpu i ddangos y gwahaniaeth sy’n cael ei wneud yn ein hysgol. Mae’n gyfle i’r disgyblion weld bod pobl eraill yn ystyried eu cyfraniad nhw".
David Russell, Bl11

Gwerthuso effaith y gwaith SEF ar yr ysgol/staff/disgyblion/eraill

Dywed Mike Gibbon, y Pennaeth, mai’r prif nod wrth wneud ysgolion yn fwy effeithiol, yw sicrhau ei bod hi’n anodd i unrhyw ddisgybl beidio â llwyddo mewn rhyw ffordd. Os yw’r ysgol yn parhau i gyfoethogi’r cwricwlwm, yn addysgu’n fwy perthnasol a chyffrous ac yn cynnwys disgyblion yn eu dysgu, bydd yn llwyddo i wasanaethu’r gymuned yn well.

Y nod yw sicrhau bod y plentyn yn ganolbwynt i’r broses ddysgu, a bod yr ysgol yn rhan ganolog o’r gymuned gyfan sy’n eu cynnal a’u cefnogi nhw. Dyna pam fod mentrau’n ceisio annog pobl i ysgwyddo cyfrifoldebau yng nghymuned yr ysgol.
 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website