Effaith yr agenda llwybrau dysgu 14-19 ar bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr - Astudiaeth Achos 5
Astudiaeth Achos 5
Maes C
1.5 Datblygiad a lles plentyn
Mae’r NVQ 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yn llwybr sefydledig a ddarperir yn Ysgol Arbennig Heronsbridge. Ym mis Medi 2005 fe sefydlodd Ysgol Gyfun Bryntirion gytundeb partneriaeth ag Ysgol Arbennig Heronsbridge. Caiff myfyrwyr Bagloriaeth Cymru Lefel 2 a chanddynt ddiddordeb mewn dilyn llwybr Gofal Plant eu haddysgu yn Heronsbridge ac maent yn cael mynediad at brofiad gwaith gwerthfawr yn yr ysgol tra’u bod yn gweithio tuag at achrediad.
Mae stori Rachel yn adlewyrchu’r effaith y mae’r llwybr hwn wedi’i chael ar ei hagwedd tuag at ei dyfodol.
STORI RACHEL
‘‘Does dim ots gen i am yr ysgol. Dim ond gwastraff amser ydyw i mi. Yr unig beth rydw i’n ei fwynhau yw tynnu ar yr athrawon. Mae hynny wir yn hwyl ond mae’r gweddill yn dda i ddim. Pam fod arnaf eisiau gwybod am Hanes? Neu Ffrangeg, neu Gymraeg, neu Grefydd neu unrhyw beth maen nhw’n ei addysgu yma? Maen nhw’n dweud wrtha i na fydda i byth yn cael swydd oni bai fy mod yn gweithio ond does dim ots gen i o gwbl. Does dim byd allan yna i mi beth bynnag – dim byd fan hyn a dim byd allan fan yna.’
Mae’n ddigon posib bod hyn yn rhywbeth y gallai Rachel fod wedi’i ddweud pan oedd yn fyfyrwraig yn ei hysgol gyfun leol. Yn sicr, dyna sut yr oedd yn teimlo bryd hynny ond yn awr mae’n teimlo’n wahanol iawn. Fe gwblhaodd flwyddyn 11 yn yr ysgol gan ennill graddau E ac F yn ei chyrsiau TGAU a byddai’n dda ganddi pe gallai gael yr amser hwnnw’n ôl gan ei bod yn gwybod y gallai fod wedi gwneud yn well. Pam y newid meddwl?
Yr unig bwnc yr oedd Rachel yn ei fwynhau yn yr ysgol oedd Datblygiad Plentyn. Bu ganddi ffrind â phlentyn anabl a pherthynas ag anghenion dysgu ychwanegol felly roedd yn deall perthnasedd y pwnc yma dros y gweddill. Yn ystod un o’r gwersi hyn y bu i’w hathrawes ei chyfeirio at gwrs newydd oedd yn dechrau mewn ysgol arbennig yn lleol ac a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol. Byddai Anogwr Dysgu’n rhoi cymorth iddi a byddai’n treulio dau ddiwrnod yn yr ysgol lle byddai’n gweithio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru ar Lefel Ganolradd.
Gan fod ganddi ddiddordeb yn y llwybr newydd hwn fe aeth Rachel i gyfweliad a chafodd ei derbyn ar y cwrs NVQ Lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. Fe ailsafodd Fathemateg a Saesneg TGAU ac fe enillodd radd D yn y ddau ac yn ystod y flwyddyn gyntaf fe fynychodd gyrsiau a oedd yn cynnwys Symudedd, Epilepsi, Amddiffyn Plant, Codi a Chario a Diogelwch Tân.
Yn dilyn cwblhau’r flwyddyn gyntaf fe ymgeisiodd Rachel am swydd mewn ysgol arbennig fel Goruchwylydd Amser Cinio. Roedd ei chais yn llwyddiannus ac fe roddodd iddi’r cyfle i dreulio mwy o amser gyda’r dysgwyr fel aelod o staff cyflogedig. Erbyn diwedd ei hail flwyddyn cafodd ei hannog i ymgeisio am rôl arall fel Cynorthwyydd Cymorth Goruchwylio. Mae ei chyflog misol wedi dyblu, mae wedi cael mynediad at fwy o gyrsiau hyfforddi ac mae wedi bod yn rhan o rai gweithgareddau y tu allan i’r ysgol, pob un ohonynt yn ychwanegu at ei phrofiad a’i datblygiad.
Yn ogystal â hyn mae wedi cael ei phenodi’n Weithwraig Cynllun Chwarae yn ystod y gwyliau ysgol fel ei bod bellach yn gallu gweithio gyda phlant o bob gallu trwy gydol y flwyddyn.
Mae Rachel bellach yn 18 mlwydd oed ac mae wedi dod yn bell dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly beth mae Rachel heddiw’n ei feddwl am y cwbl? Pa fath o beth fyddai’n ei ddweud yn awr i ddisgrifio sut y mae’n teimlo? Wel, beth am adael iddi siarad drosti’i hun.
‘Dyma’r lle rydw i am fod am byth. Rydw i am ddringo’r ysgol. Rydw i am chwarae rhan ym mywydau’r plant yma a gwneud gwahaniaeth iddynt. Alla i ddim diolch digon i’r ysgol am eu hanogaeth a’u cymorth. Yn awr rydw i’n codi yn y bore gan edrych ymlaen at fynd i’r ysgol ac yn dweud WOW! Rydw i mor lwcus. Mae cymaint o fy ffrindiau heb ddim a ‘does ganddyn nhw ddim dyheadau. Rydw i bellach yn byw bywyd annibynnol, yn talu rhent ac yn cynilo bob mis. Allai bywyd ddim bod yn well.’
Manylion cyswllt:
Enw: Kath Durbin - Post 14 Education and Training Development Officer


