Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Effaith yr agenda llwybrau dysgu 14-19 ar bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr - Cyflwyniad

Cyflwyniad

Beth sydd gan Lliam, Josh, Leah a Rachel yn gyffredin? Y dysgu y maent yn ei wneud yw’r ateb. Maent i gyd yn fyfyrwyr yn astudio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi gallu cael mynediad at gyfleoedd dysgu sy’n berthnasol i’w hanghenion. Ym mhob achos mae hyn wedi dwyn effaith gadarnhaol iawn ar eu cynnydd a’u datblygiad fel unigolion ac o bosib wedi’u paratoi ar gyfer dyfodol disglair.

Mae a wnelo’r ddogfen hon â’r modd y mae hawlogaeth dysgwyr wedi cael ei rhoi ar waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ond beth mae hawlogaeth dysgwyr yn ei olygu? O’i roi’n syml, mae’n golygu bod gan ddysgwyr 14-19 mlwydd oed yr hawl i gyfleoedd dysgu hyblyg a pherthnasol o ansawdd uchel o blith ystod eang o ddewisiadau sy’n agored i bawb. Y cwestiwn allweddol yw – A ydym yn cwrdd â’r hawlogaeth hon ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Er mwyn helpu i ateb y cwestiwn hwn, mae’r tudalennau a ganlyn yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos sut y mae llwybrau a chyfleoedd newydd, sy’n cynnig dewis a hyblygrwydd mwyfwy eang, yn effeithio mewn modd cadarnhaol ar fywydau pobl ifanc yn y Sir.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi adnabod pum maes astudio eang a adwaenir fel Meysydd ac sydd yn eu tro’n cynnwys nifer o wahanol ddewisiadau a elwir yn Llwybrau Dysgu. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y Ddewislen a gynigir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er mwyn darparu ar gyfer anghenion dysgu amrywiol pobl ifanc yn y Sir heddiw. Dyma’r ddamcaniaeth ond a yw’n gweithio’n ymarferol?

Mae’r enghreifftiau a gynhwysir yn y ddogfen hon yn dystiolaeth o ysgolion yn cydweithio gydag ysgolion cyfagos ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth gyda’u Coleg lleol er mwyn dwyn manteision i’r dysgu a wneir gan fyfyrwyr megis Lliam, Josh, Leah a Rachel. Yn ogystal â’r pedwar person ifanc yma, rhoddir sylw i ddeg o rai eraill, er mwyn darparu cyfres o bedair ar ddeg o astudiaethau achos am wahanol fyfyrwyr, sy’n dilyn llwybrau gwahanol, a phob un ohonynt yn astudio ym Mhen-y-bont ar Ogwr heddiw.

Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys eu storïau a thrwy eu profiadau cawn ein hatgoffa am eu pwysigrwydd canolog i’r agenda 14-19 ac i weithredu’r agenda ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r egwyddor o roi anghenion dysgwyr yn gyntaf a sicrhau bod eu hanghenion yn cael mwy o flaenoriaeth nag anghenion sefydliadau’n egwyddor sylfaenol y mae pob sefydliad dysgu a hyfforddi yn yr ardal yn ei chefnogi. Mae’r astudiaethau achos hyn yn dangos sut yr ydym yn cydweithio’n effeithiol i roi’r egwyddor hon ar waith er mwyn mynd ati ymhellach i wella’r cyfleoedd a’r canlyniadau dysgu i bawb.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y ddogfen.

 

Kath Durbin
Swyddog Datblygu Addysg a Hyfforddiant Ôl 14 a Swyddog Rhwydwaith 14-19 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Manylion cyswllt:

Enw: Kath Durbin - Post 14 Education and Training Development Officer

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website