Gwerthuso deunyddiau hyfforddiant cynghorau ysgol
Mae gennym gyngor ysgol ers dros bedair blynedd bellach. Mae aelodaeth y Cyngor yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Mantais hyn yw ein bod yn rhoi cyfle i gynifer o ddisgyblion ag sy’n bosib i gymryd rhan mewn proses ddemocrataidd. Ar y llaw arall mae hi’n anodd cael dilyniant yn y gwaith ac mae tueddiad i ailymweld a’r un meysydd.
Dewis Cynrychiolwyr dosbarth:
Rydym yn ysgol o 600. Dewisir cynrychiolydd o bob dosbarth gydag eilydd i gymryd ei le mewn cyfarfodydd pan fo’n absennol. Yn ogystal mae ‘r prif ddisgyblion ar y Cyngor.
Gwneir y dewis yn y sesiwn ABCh Cynnydd cyntaf ymhob blwyddyn ysgol. Mae 12 gwers ABCh Cynnydd mewn blwyddyn dan ofalaeth yr athrawon dosbarth. Dyma’r cyfle pennaf i’r cynrychiolwyr adrodd yn ol a thrafod gwaith y cyngor ond gallant hefyd ddefnyddio sesiynau cofrestru boreol. Yn y sesiwn gyntaf hon y mae pob athro dosbarth yn rhoi cyflwyniad byr ar ddemocratiaeth a’i ystyr. Wedyn mae ‘r dosbarth yn rhoi cyfle i gyflwyno enwau. Os oes mwy nag un gofynnir i’r disgyblion hynny roi cyflwyniad er mwyn “gwerthu” eu hunain ar gyfer y swydd. Ceisir cael cydbwysedd rhyw e.e. os yw’r cynrychiolydd yn fachgen, mae’r eilydd yn ferch. Y disgyblion sy’n dewis drwy bleidleisio’n gyfrinachol. Gan bod y dosbarthiadau cofrestru yn allu cymysg llwyddir i gael amrywiaeth a rhoi cyfle cyfartal i bawb.
Ar ol derbyn yr hyfforddiant sylweddolir y gellir dewis cynrychiolwyr dosbarth mewn ffyrdd llawer mwy diddorol a bwriedir cyflwyno rhain yn y flwyddyn ysgol newydd.
Cynnal cyfarfodydd:
Fel arfer gwahoddir y cynrychiolwyr dosbarth i gyfarfodydd drwy lythyr ffurfiol gydag agenda ynghlwm. Cynhelir cyfarfodydd yn ystod yr amser cinio yn llyfrgell yr ysgol a rhoddir cyfle i’r cynrychiolwyr fynd am ginio cynnar. Prin iawn fu’r absenoldebau ac yn y rhan fwyaf o achosion gyrrwyd yr eilydd yn eu lle.
Eleni dechreuwyd cynnal cyfarfodydd mewn gwersi yn ogystal. Mae hyn yn rhoi llawer mwy o lonydd ac amser i drafod a llwyddir i roi mwy o statws i’r weithgaredd. Cyn belled nad oedd yr un pynciau yn cael eu taro fwy nag unwaith roedd y staff yn gefnogol. Cyfuniad o’r ddau sy’n ddelfrydol.
Arferion Da:
- Disgrifiad swydd i bob cynrychiolydd
- Cyfansoddiad
- Annerch y llywodraethwyr unwaith y tymor
- Lap top ar gyfer yr ysgrifennydd i wneud cofnodion mewn cyfarfodydd
- Hyfforddiant ar gyfer ysgrifennydd y cyngor gan ysgrifennydd yr ysgol
- Disg gyda cofnodion engreifftiol a templates llythyrau
- Llythyr adref i bob cynrychiolydd i ddangos pwysigrwydd y swydd o fewn bywyd ysgol
“Rwyf yn hoffi bod yn rhan o’r Cyngor Ysgol oherwydd rwyf yn hoffi meddwl bod llais y disgyblion yn cael ei glywed.”
Anna Blwyddyn 8
“Y mae hi’n syniad da cael Cyngor Ysgol oherwydd dyma un o’r ffyrdd gorau i wella’r ysgol “
Ioan Blwyddyn 9
“Mi ddes i’n gynrychiolydd dosbarth oherydd roeddwn i eisiau’r cyfle i gyfrannu i fywyd yr ysgol”
Ioan Blwyddyn 9
“ Mae’n brofiad da cael gweithio gyda disgyblion hyn a staff yr ysgol“
Ioan Blwyddyn 9
“Un o’m prif lwyddiannau oedd cael ffynhonnau dwr“
Ioan Blwyddyn 9
“Mae’n syniad da cael Cyngor Ysgol er mwyn gwella petha a chael gwybod be mae disgyblion eisiau a ddim eisiau”
Tomos R Blwyddyn 7
“ Mae’r Cyngor Ysgol yn syniad da achos mae’n gwella yr ysgol. Mae’n gwneud yr ysgol yn iach ac yn saff”
Tomos R. Blwyddyn 7
“Mae hi’n syniad da cael Cyngor Ysgol oherwydd mae’n rhoi’r hawl i blant roi eu barn”
Catherine Blwyddyn 7
“Mi ddes i’n gynrychiolydd dosbarth drwy gael pobl yn dewis fi ac yna pleidleisio.”
Catherine Blwyddyn 7
“Un ffordd o ddewis cynrychiolydd dosbarth yw cael cwis – Oes gennych chi’r doniau i fod ar y Cyngor?”
Sophia Blwyddyn 7
“Un syniad da yw cael lluniau o lwyddiannau’r Cyngor ac aelodau’r Cyngor o gwmpas yr ysgol”
Sophia Blwyddyn 7
“Cyngor Ysgol yw lle mae plant yn dod at ei gilydd i sortio problema”
Geraint Blwyddyn 7
“Mae hi’n syniad da cael Cyngor Ysgol oherwydd mae’n helpu plant”
Geraint Blwyddyn 7
“Mi ddes i’n gynrychiolydd dosbarth oherwydd o’n i’n meddwl y basa’n hwyl”
Geraint Blwyddyn 7
“Mae’n dda gweithio gyda staff a disgyblion gwahanol ar y Cyngor”
Geraint Blwyddyn 7
“Un o’n llwyddiannau yw gwneud yr ysgol yn lle iach”
Geraint Blwyddyn 7
“Dwi wedi datblygu lot o syniadau ers dwi ar y Cyngor”
Geraint Blwyddyn 7


