Fforwn Cynghorau Ysgolion Uwchradd Sir Ddinbych
Mae cynrychiolwyr o gynghorau pob ysgol uwchradd ac ysgol arbennig yn cyfarfod unwaith y tymor o dan faner Fforwm Cynghorau Ysgolion Uwchradd. Sefydlwyd y fforwm bum mlynedd yn ôl ac yn wreiddiol roedd yr arian (ar gyfer costau cludiant a chynhaliaeth - dim staff cyflenwi) yn dod o ychydig o gannoedd o bunnoedd a gadwyd yn ôl gan yr AALl, o’r Grant Cyngor Ysgolion. Yn ddiweddar, ariannwyd y fforwm gan y Rhwydwaith 14-19.

Mae’r fforwm yn cyfarfod mewn ysgolion ar draws y sir ar wahoddiad yr ysgol unigol. Cadeirydd y cyfarfod, fel rheol, yw cadeirydd cyngor yr ysgol letyol, gyda chymorth Hyrwyddwr Llais Dysgwyr y sir. Fel rheol, nid yw’r cyfarfod yn parhau am fwy na 2 awr – ac felly bydd cyfarfod arferol yn dechrau am10am ac yn gorffen ganol dydd. Mae cyfle ym mhob cyfarfod i bob cyngor ysgol sôn wrth y fforwm am eu gweithgareddau ers y cyfarfod diwethaf. Yn aml iawn mae hyn yn arwain at gyfnewid gwybodaeth a syniadau defnyddiol ac mae ysgolion yn dysgu o lwyddiannau a methiannau ei gilydd.
Yn fynych ceir cyflwyniad byr gan siaradwr – ac yn ddiweddar mae hyn wedi cynnwys anerchiadau gan swyddog ailgylchu’r sir, Prif Weithredwr y cyngor sir a chydlynydd cenedlaethol Gwasanaethau Cwnsela mewn Ysgolion. Cyn estyn gwahoddiad, mae’r fforwm yn trafod unrhyw gais a gafwyd i’w annerch.
Yn Sir Ddinbych, mae’n amlwg bod y fforwm wedi cael dylanwad o ran gwella’r ddealltwriaeth o rôl cyngor yr ysgol, ac wedi ysgogi codi lefel cyfranogiad disgyblion.


