Effaith yr agenda llwybrau dysgu 14-19 ar bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr - Astudiaeth Achos 3
Astudiaeth Achos 3
Maes A
4.3 Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth
Cafodd trefniant peilot cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 4 rhwng Ysgol Gyfun Ynysawdre, Coleg Pen-y-bont a’r Cyngor Sgiliau Sector, Sgiliau Modurol ei sefydlu, trwy’r Rhwydwaith 14-19, ym mis Medi 2007. Ym mis Medi 2008 cafodd y llwybr dysgu gwaithganolog hwn ei ymestyn i gynnwys dysgwyr o Ysgol Gyfun Ogwr.
Dewisodd Steff (blwyddyn 10) y llwybr hwn, llwybr a aeth a hi allan o’r ysgol un diwrnod yr wythnos i astudio yng Ngholeg Pen-y-bont ym mis Medi 2008.
STORI STEFF
Mae Steff yn ymestyn o dan sedd y car gyda sgriwdreifer ac yn llacio’r sgriwiau sy’n ei dal yn ei lle. Ar ôl ei chodi allan o’r car mae’n gafael yn y carped â dwy law ac yn ei godi. Nesaf mae’n rhaid tynnu paneli’r drysau.
Mae Steff ar brofiad gwaith gyda deliwr ceir lleol fel rhan o Gwrs lefel 2 City and Guilds mewn Sgiliau Modurol. Mae’n gollwng y carped ar lawr y gweithdy ac yn troi ei sylw at y drysau. Nid yw’n waith hawdd ond mae hi’n benderfynol o lwyddo a phenderfyniad yw’r hyn y bu’i angen arni o’r eiliad y gwnaeth gais i ddilyn y llwybr hwn.
Mae hon yn raglen beilot genedlaethol, sy’n treialu cyfleoedd dysgu yn y gwaith a phan wnaeth Steff gais i fod yn rhan o’r rhaglen roedd eisoes wedi bod yn rhedeg am flwyddyn. Roedd wedi clywed pethau da am y cwrs gan fechgyn ym mlwyddyn 11 a oedd bellach ar eu hail flwyddyn yn astudio’r cwrs ac roedd ganddi ddiddordeb mewn ymgeisio amdano. Er ei bod yn ymwybodol mai bechgyn yn unig oedd wedi bod yn dilyn y cwrs cyn hynny, ni wnaeth hyn ei throi oddi ar y syniad.
Ar ôl mynd drwy’r broses gyfweld, hi oedd yr unig ferch o’i hysgol hi a gafodd ei dewis, ynghyd â phum bachgen. Fe ymunodd y grŵp hwn wedyn â phedwar o fyfyrwyr o ysgol
Un diwrnod bob wythnos gyda gweddill y grŵp caiff ei chludo i Goleg Pen-y-bont ble mae’r cwrs yn cael ei gynnal. Mae ymgynefino i fywyd coleg am y diwrnod hwn wedi bod yn anodd ond mae’n ymroi i’r gwaith yn yr ystafell ddosbarth a’r gweithdy ac mae’n mwynhau’r her.
Er bod y cwrs yn gyfystyr â phum cymhwyster TGAU nid dyna’r unig un y mae’n astudio ar ei gyfer. Mae ganddi raglen lawn o gyrsiau TGAU yn ôl yn yr ysgol ac mae’n rhaid iddi ganolbwyntio ar y rhain am y pedwar diwrnod arall o’r wythnos. Mae’n cael gwersi dal-i-fyny ar gyfer yr amser ysgol y mae’n ei golli tra’i bod yn y coleg ac ar brofiad gwaith, ac er bod ei rhieni wedi dechrau pryderu bod Steff yn gwneud gormod mae’n dal yn benderfynol o wneud y cwbl.
Mae Steff wir yn mwynhau gweithio gyda cheir ond ei nod yn y pen draw yw bod yn swyddog yr heddlu. Mae’n sicr bod y cwrs yma’n helpu i roi iddi’r sgiliau a’r profiad a fydd yn wirioneddol ddefnyddiol wrth iddi weithio tuag at yrfa’n ymdrin â phroblemau yn y gymuned a chadw pobl yn ddiogel. Nid yw’r llwybr y mae wedi dewis ei ddilyn i’w helpu i gyrraedd ei nod wedi bod yn un rhwydd. Mae angen iddi ddefnyddio’i holl benderfyniad er mwyn dilyn y llwybr yn effeithiol ond mae’n argyhoeddedig mai dyma’r llwybr cywir o safbwynt ei datblygiad personol ei hun a’i nodau ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol.
Mae nam wedi cael ei ganfod ar geir newydd o fath arbennig ac maent yn cael eu galw’n ôl i gywiro’r nam. Mae Steff yn tynnu panel drws un o’r ceir ac wrth iddi wneud mae’n hapus i wybod ei bod yn rhan o gywiro problem a chadw gyrwyr yn ddiogel ar y ffyrdd.
Manylion cyswllt:
Enw: Kath Durbin - Post 14 Education and Training Development Officer


