Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Datblygu cyngor ysgol mewn ysgol gyfun fawr

Model Bryn Celynnog. (1400 ar y gofrestr)

Y peth cyntaf i’w wneud yw ysgogi’r bobl ifanc ledled yr ysgol i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol drwyddi draw. Mae pob grŵp blwyddyn wedi datblygu ei Gyngor Ysgol ei hunan, y mae gan bawb fynediad hollol agored ato. Mae unrhyw weithredydd sydd ag agwedd bositif yn cael ei annog i gymryd rhan. Caiff myfyrwyr eu hethol, o blith y cynghorau hyn, i fod yn aelod o’r Cyngor Ysgol Gyfan.

Students and guests raise the first Ecoschool Flag won by the school in 2002.

Bob blwyddyn bydd y cyngor yn penderfynu ar darged pendant am y tymor ac/neu y flwyddyn, sy’n cael ei fonitro gan y prif gyngor.

Yn y Cyngor Blwyddyn bydd myfyrwyr yn ymwneud â phrosiectau cymunedol e.e. ‘Rhowch Gymorth i Blentyn yn Ne Cymru’, Cymdeithas y Badau Achub, Apêl Daeargryn Pacistan. Fe allai ganolbwyntio rhagor ar yr ysgol, yn dibynnu ar yr angen e.e. bod yn berchen ar fan arbennig, y mae’r myfyrwyr yn ei wella ac yna’n manteisio ar y cyfleusterau a gafodd eu gwella.

Un mis cyn gwyliau’r Pasg bydd proses Etholiad y Cyngor Ysgol yn dechrau.

 

  1. Bydd o leiaf 6, ac ar y mwyaf 8, o enwau’n cael eu henwebu o bob Cyngor Blwyddyn, a’u cyflwyno i’r corff sy’n trefnu. (Mae hyn yn cynnwys aelod o’r staff yn ogystal â thîm y myfyrwyr hŷn). Y cynghorau blwyddyn unigol fydd yn dewis yr enwau ar gyfer hyn.
  2. Caiff pob ymgeisydd a ddewisir ei gyhoeddi wrth y myfyrwyr i gyd a chaiff wythnos ei neilltuo er mwyn cynnal hustyngau. Mae gwasanaethau (boreol) yn gyfrwng da ar gyfer hyn ond caiff ymgeiswyr ganiatâd i ganfasio a hyrwyddo eu hymgyrch fel y mynnant cyn belled â bod y corff sy’n trefnu yn penderfynu ei fod yn deg.
  3. Bydd 4 o fyfyrwyr yn cael eu hethol i wasanaethu ar y cyngor ysgol am un flwyddyn. Fe fydd cyfri’n ôl yn digwydd, er mwyn atgoffa pawb ynghylch Diwrnod yr Etholiad. Rhoddir papur pleidleisio i bob myfyriwr, gydag enwau’r myfyrwyr o flwyddyn benodol. Gofynnir iddynt roi tic gyferbyn â’u 4 dewis ymgeisydd hwy.
  4. Bydd y corff sy’n trefnu yn cyfrif y papurau pleidleisio er mwyn i bob myfyriwr weld bod y broses yn deg.

 

Eleni cafwyd canlyniad syfrdanol i’r etholiadau wedi i ddau o gynghorwyr penderfynol y blynyddoedd blaenorol fethu cael eu hailethol. Penderfynodd y cyngor hwythau na ddylid colli’r wybodaeth arbenigol yr oedd y ddau unigolyn hyn wedi’i hennill ac felly fe gawsant eu hethol yn Llysgenhadon yr Ysgol. Byddant yn mynychu cymaint o gyfarfodydd ag yr hoffent ond nid oes ganddynt hawl i bleidleisio. Wrth wneud hynny mae’r cyngor yn elwa ar eu profiad cyn i unrhyw bleidlais gael ei chynnal. Bu eu gwasanaethau o fudd mawr i’r ysgol ac mae eu cyd-ddisgyblion yn eu parchu fwy a mwy.

Beth am fyfyrwyr Blwyddyn 7? Eleni rydym ni’n mynd i ofyn i’r myfyrwyr hynny a fu’n gwasanaethu ar eu cynghorau ym Mlwyddyn 6, ddal ati i wneud eu swydd tan etholiadau’r Pasg. Un o rannau ein rhaglen am 2007 yw datblygu cynghorwyr o’r fath yn Gynghorwyr Trosiannol er mwyn iddynt helpu’r broses Drosi i fynd rhagddi’n ddidrafferth.

Bu’r Cyngor Ysgol Gyfan yn cyfarfod bob wythnos ac mae ef wedi mynd o nerth i nerth yn sgil hynny. Mae’r Swyddogion yn cynnwys Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd a Swyddogion Cyhoeddusrwydd. Nid myfyrwyr hŷn oedd y swyddogion yma fodd bynnag; roeddent hwy wrthi’n brysur yn dilyn eu hastudiaethau academaidd.

Ymysg y materion a drafodwyd yn y flwyddyn ddiwethaf roedd:
 

 

  • Cynadleddau a gynhaliwyd gan Rhondda Cynon Taf a Chynulliad Cymru.
  • Maetheg Ysgol.
  • Datblygu Cynaliadwy.
  • Dinasyddiaeth Fyd-Eang.
  • Codi Arian at Elusennau.
  • Dewis staff newydd ar gyfer yr ysgol
  • Cludiant ysgol
  • System Gwobrau’r Ysgol
  • Rheoli Newidiadau ym Mannau Cymdeithasu Myfyrwyr wrth iddynt symud o Flwyddyn 9 i Flwyddyn 10
  • Gwobrau Addysgu.

Ers tro byd nawr buom yn gweithio fel tîm ysgol gyfan ac felly mae’n bryd inni ddatblygu yn grwpiau ffocws neu is-bwyllgorau er mwyn trafod amrywiaeth o faterion. Yn ôl pob tebyg y materion sydd wedi’u nodi uchod mewn teip du fydd y rhain; o bosibl byddwn yn cyfarfod bob pythefnos gan gynnal cyfarfod y prif gyngor unwaith y mis. Felly nid siop siarad fydd ein Cyngor ni mwyach; yn hytrach bydd yn gorff gweithredol sy’n cael adborth yn rheolaidd gan yr uwch dîm rheoli. Yn sgil hyn mae’r myfyrwyr sy’n aelodau o’r cyngor ysgol yn fawr eu parch ymysg eu cyd-ddisgyblion. Felly mae’r cysyniad hwn wedi’i ymsefydlu’n bendant a’i gadarnhau ar bob cyfle sy’n golygu y gall y Cyngor ddatgan, â balchder, y gall ef fynd â’r maen i’r wal.

Manylion cyswllt:

Enw: K. Zdzieblo, Cydlynydd Cymuned yr Ysgol.

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website