Consortiwm Cyfranogi
Mae 7 Safon Cenedlaethol y dylai cyrff sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc geisio’u bodloni er mwyn i blant a phobl ifanc gael profiad da o gyfranogi. Mae’r safonau hyn yn annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu unrhyw gam gweithredu a allai effeithio arnynt, sef ‘Bod â Llais, Bod â Dewis’. Rydym yn defnyddio’r Safonau hyn yn ein gwaith ac yn helpu cyrff eraill i’w defnyddio pan fyddant yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Dyma’r 7 Safon:
- Gwybodaeth - sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall
- Dy Ddewis Di - digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis cytbwys
- Dim Gwahaniaethu - yr un cyfle i blant a phobl ifanc gael cyfranogi.
- Parch - Byddwn yn cymryd dy farn o ddifrif
- Byddi di ar dy ennill - Byddi’n mwynhau’r profiad
- Adborth - Byddi di’n gweld pa wahaniaeth mae dy farn wedi’i wneud
- Gwella’r ffordd rydym yn gweithio. Bydd oedolion yn gofyn i chi sut y gallant wella’r ffordd y maent yn gweithio yn y dyfodol
Yr Uned Gyfranogi sydd wedi datblygu’r Safonau hyn, gan weithio gyda’r Consortiwm Cyfranogi, Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru.
- Rydym wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc i greu’r safonau cyfranogi hyn ac i ofyn i oedolion gadw atynt.
- Mae’r Uned Gyfranogi yn bwriadu sefydlu cynllun nod barcud cenedlaethol ar y Safonau.
Mae gwybodaeth am Safonau Cenedlaethol Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc wedi’i hanfon i ysgolion a cholegau ac rydym wedi cynnal gweithdai i egluro’r Safonau. Hefyd, mae gennym octopws mawr glas i’n helpu i’w hybu.
Mae modd lawrlwytho’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc ar waelod y dudalen hon.


