Rheoliadau Cynghorau Ysgol
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud cyfraith (Rheoliadau Statudol) sy’n dweud bod rhaid i bob ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig yng Nghymru fod â chyngor ysgol yn barod ac yn gweithredu erbyn mis Tachwedd 2006. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU sydd wedi gwneud cyfraith o’r fath.
Mae’r Rheoliadau yn nodi nifer o bethau eraill y bydd rhaid i ysgolion eu gwneud mewn perthynas â chynghorau ysgol. Mae’r rhain wedi eu rhestru isod:
Rhaid i ysgolion:
Sefydlu cyngor ysgol os ydynt yn ysgolion cynradd (ac eithrio babanod a meithrin), arbennig neu uwchradd;
- Sicrhau y cynhelir cyfarfod cyntaf erbyn y 1af o Dachwedd 2006 fan bellaf. Cynnal o leiaf chwe chyfarfod o gyngor yr ysgol bob blwyddyn. Yn ddelfrydol dylid rhannu’r rhain yn gyfartal ar hyd y flwyddyn er mwyn cynnal cyfarfod o leiaf unwaith pob hanner tymor.
- Sicrhau bod pob aelod o gyngor yr ysgol yn ddisgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol. (Gallai ysgolion ar yr un safle fod ag un cyngor ysgol rhyngddynt pe byddent yn dymuno hynny).
- Trefnu bod etholiadau i gyngor yr ysgol yn digwydd trwy bleidlais gudd.
- Trefnu bod modd cynrychioli pob blwyddyn yn yr ysgol ar gyngor yr ysgol. (Nid yw hyn yn berthnasol i ysgolion arbennig).
- Sicrhau bod modd i gyngor yr ysgol gynrychioli disgyblion mewn Canolfannau Adnoddau Anghenion Arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd.
- Sicrhau y rhoddir ymateb i unrhyw fater y bydd cyngor yr ysgol yn ei roi gerbron y pennaeth neu’r corff llywodraethol.
- Sicrhau bod oedolyn yn goruchwylio pob cyfarfod o gyngor yr ysgol.
Gall ysgolion uwchradd:
Enwebu 2 o’u haelodau o flynyddoedd 11-13 i fod yn Ddisgybl Lywodraethwr cyswllt ar gorff llywodraethol yr ysgol. Mae’n rhaid i gyngor yr ysgol wneud y penodiadau hyn ac mae’n rhaid i gorff llywodraethol yr ysgol eu derbyn. Ni fydd gan y Disgybl Lywodraethwyr cyswllt hawliau pleidleisio ar y corff llywodraethol ac ni fyddant yn gallu cymryd rhan wrth ystyried materion cysylltiedig â phenodi staff, cyflog a disgyblaeth staff a disgyblion.
Dolenni:
I weld y Rheoliadau yn gyfan, rhowch glic ar y ddolen hon:
http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/wsi2005/20053200w.htm


