Hawliau Ni Ein Stori Ni
Ar ddydd Mawrth 20fed Tachwedd 2007, roedd Draig Fynci’n falch iawn o lansio ‘Ein Hawliau Ni, Ein Stori Ni’ i’r byd ar ddiwrnod arbennig iawn - Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Plant.
Ar ôl 18 mis o waith caled gan bawb fu’n cymryd rhan, safodd aelodau’r Grŵp Llywio o flaen ystafell orlawn yng Nghanolfan y Mileniwm a rhoi cyflwyniad gwych ar ganfyddiadau ‘Ein Hawliau Ni, Ein Stori Ni’ a’r Adroddiad Plant, ‘Pam fod Oed Pobl yn Mynd Fyny Ddim Lawr?’
Cynhaliwyd y lansiad ar gyfer y cyfryngau mewn cydweithrediad ag Achub y Plant oedd yn lansio’r adroddiad ‘Aros, Edrych, Gwrando: Sut Mae Gwireddu Hawliau Plant yng Nghymru’ - a gyhoeddwyd gan Achub y Plant a Grŵp Monitro’r UNCRC sef Adroddiad Amgen Cyrff Anllywodraethol Cymru sy’n cael ei anfon i’r Cenhedloedd Unedig. Galli lawrlwytho copi o’r adroddiad ar waelod y dudalen hon.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Richard Powell (Pennaeth Amddiffyn Plant y Byd) a chafwyd siaradwyr gwadd, sef Keith Towler (Cyfarwyddwr Rhaglen Achub y Plant yng Nghymru a Chadeirydd Grŵp Monitro’r UNCRC), Jane Hutt (Y Gweinidog ar gyfer Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau) a Maria Battle (Y Comisiynydd Plant Gweithredol).
Mae Draig Ffynci wedi ymgynghori gyda dros 10,000 o bobl ifanc 11-15 oed yng Nghymru a dros 2,000 o blant 7-10 oed er mwyn gwneud yn siŵr bod yr adroddiadau’n llawn o’r wybodaeth gywir, sy’n adlewyrchu’r ffordd mae plant a phobl ifanc yn derbyn eu hawliau yng Nghymru.
Mae’r adroddiad wedi’i ganmol fel llwyddiant mawr a mewnwelediad gwych i’r materion a drafodir ynddo – sef addysg, cyfranogiad, gwybodaeth, iechyd a diddordeb penodol. Nawr bydd y grŵp llywio’n mynd â’r adroddiad i Genefa a’i gyflwyno’n bersonol i’r Cenhedloedd Unedig.
Galli lawrlwytho’r adroddiad o waelod y dudalen hon, neu os hoffet ti gael copi caled neu mwy o wybodaeth, ffonia’r swyddfa ar 01792 450 000.


