Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

CCUHP

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd WaunarlywddMae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn) yn gytundeb rhyngwladol sydd wedi’i lofnodi gan 192 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig. Mae’r Confensiwn yn rhoi eu set o hawliau eu hunain i holl blant a phobl ifanc y byd dan 18 oed. Gelwir yr hawliau hynny’n “erthyglau”.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwys mawr ar y Confensiwn. Mae hyn i’w weld yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud polisïau ac wrth gynllunio a datblygu gwasanaethau. Mae pobl ifanc wedi’u cynnwys hefyd mewn penodiadau pwysig, fel swydd Comisiynydd Plant Cymru.

I ddarganfod mwy am y Confensiwn, ewch i y wefan CCUHP.

Yn yr adran hon o’r wefan gallwch lawrlwytho Pecyn Cymorth y Confensiwn a Chwis i’ch helpu i ddeall y Confensiwn a sut mae’n effeithio arnoch chi.

I weld y rap a greuwyd gan grwp o bobl ifanc ym Mro Morgannwg ar CCUHP, ewch at Plant a Phobl Ifanc.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am adroddiad pobl ifanc i’r CU am hawliau plant yng Nghymru yn 2007 ar wefan y Ddraig Ffynci.

Y mae plant yn Ysgol Gynradd Llangyfelach yn Abertawe wedi ysgrifennu cerdd a chreu ffilm am beth mae CCUHP yn ei olygu i blant yn ymarferol. Ymddiheurwn fod y deunyddiau hyn ar gael yn Saesneg yn unig.

 

 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website