Beth yw Cyngor Ysgol?
Grŵp o ddisgyblion yw cyngor ysgol, wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu barn a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Gall cyngor yr ysgol hefyd fwrw ymlaen â phrosiectau ar ran y disgyblion, a chyfrannu at gynllunio ac at bethau fel Cynllun Datblygu’r Ysgol, cyfarfodydd y corff llywodraethu a phenodiadau staff.
I fod yn effeithiol, rhaid i gyngor ysgol:
- Fod yn gynrychiadol ac yn gynhwysol;
- Gymryd amser i wrando ar yr holl ddisgyblion ac i gyfleu eu barn;
- Adborthi i ddisgyblion am yr hyn ddigwyddodd am eu barn;
- Wneud i bethau ddigwydd – neu esbonio pam nad yw hyn yn bosibl!
Cyngor Craff am Gyngor Ysgol Effeithiol
Rhaid sicrhau bod:
- etholiadau yn deg ac yn agored;
- pawb wedi’i gynrychioli (e.e. trwy gyfetholiadau);
- gwahanol ffyrdd i bobl leisio barn (e.e. amser yn yr ystafell ddosbarth, blychau awgrymiadau, holiaduron, grwpiau ffocws …..);
- hyfforddiant yn ei le;
- cyfathrebu yn effeithiol, fel bod pobl yn gwybod beth sydd yn digwydd i’w hawgrymiadau a’u syniadau;
- canlyniadau i’w gweld!
Gadewch i ni wybod beth mae’ch cyngor ysgol chi yn ei wneud trwy gysylltu â: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk


