Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Beth yw Cyfranogi?

Yn llythrennol, mae cyfranogi yn golygu ‘cymryd rhan’. Mae cyfranogi fel y mae’n cael ei ddefnyddio ar y wefan hon, fodd bynnag, yn cyfeirio at oedolion yn gwrando ar eich llais chi - plant a phobl ifanc Cymru – wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnoch, a’ch helpu i gymryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau. Y mae’r hawl hon yn cael ei datgan yn Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP)

Yn 2004 cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gystadleuaeth i esbonio beth mae Cyfranogi yn ei olygu mewn ffordd a fyddai’n hawdd i oedolion a phobl ifanc ei ddeall.

Dyma’r diffiniad buddugol: "Ystyr cyfranogiad yw bod gennyf yr hawl i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, o gynllunio ac o adolygu unrhyw gam a allai effeithio arnaf i. Cael llais, cael dewis"

Rydym hefyd wedi datblygu’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru. Set o saith o safonau ydynt, sy’n cynorthwyo sefydliadau i ddilyn arferion da pan fyddant yn cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.


Dyma’r 7 Safon:
 

  1. Gwybodaeth - sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall;
  2. Dy Ddewis Di - digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis cytbwys;
  3. Dim Gwahaniaethu - yr un cyfle i bob blentyn a pherson ifanc gyfranogi;
  4. Parch – Byddwn yn cymryd dy farn o ddifrif;
  5. Byddi di ar dy ennill – Byddi di’n mwynhau’r profiad;
  6. Adborth – Byddi di’n gweld pa wahaniaeth mae dy farn wedi’i wneud;
  7. Gwella’r ffordd rydym yn gweithio. Bydd oedolion yn gofyn i ti sut y gallant wella’r ffordd y maent yn gweithio yn y dyfodol.
     
 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website