Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Gweithgareddau Pobl Ifanc

Mae’r gweithgareddau hyfforddi hyn wedi’u llunio ar gyfer pobl ifanc ac wedi’u treialu yn eu plith i’w helpu i:

  • ddeall hawliau plant a phobl ifanc a sut y maent yn effeithio ar bob plentyn a pherson ifanc;
  • deall beth yw cyfranogiad, pam mae’n bwysig a sut y gall eu helpu i gymryd rhan yn y gwaith o wneud cymuned eu hysgol yn fwy effeithiol;
  • rhannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth gyda disgyblion eraill yn eu hysgol;
  • magu hyder a datblygu sgiliau cyfathrebu;
  • chwarae rhan fwy gweithredol yn eu hysgol a’r gymuned ehangach.

Mae’r deunyddiau’n hawdd eu defnyddio ac yn hwyl, ac maent yn cynnwys yr holl adnoddau sydd eu hangen i gynnal y gweithgareddau. Gallwch hefyd wylio DVD ar y dudalen hon, yn dangos pobl ifanc yn arwain y gweithgareddau.

 

Mae cyfanswm o ddeuddeg gweithgaredd ar gael. Gosodir Dalen yr Hyfforddwr ar gyfer pob gweithgaredd ar fformat tebyg, sef:

  • Rhif y Thema (1, 2 neu 3);
  • Rhif a Theitl y Gweithgaredd;
  • Diben – yr hyn y dylai’r gweithgaredd hwn helpu pobl ifanc i’w wneud;
  • Adnoddau – unrhyw beth y mae ei angen ar ddisgyblion i gynnal y sesiwn;
  • Gwaith paratoi – unrhyw beth y bydd angen iddynt ei wneud neu ei wirio ymlaen llaw;
  • Amseru – faint o amser sydd ei angen i gynnal y gweithgaredd;
  • Cyfranogwyr – grŵp o ba faint y mae’r gweithgaredd hwn yn briodol iddo, ac unrhyw gyfarwyddiadau ynglŷn â rhannu pobl yn grwpiau;
  • Amlinelliad o’r Gweithgaredd;
  • Gwaith dilynol.

Mae dalennau adnodd ar gyfer gweithgareddau yn dilyn dalen yr Hyfforddwr ar gyfer y gweithgaredd hwnnw. Mae’r rhain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r ddwy iaith. Weithiau bydd angen i’r disgyblion lawrlwytho adnoddau fel DVDs, felly rhoddir dolenni i wefannau.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio’r gweithgareddau hyn. Rhowch wybod inni sut hwyl y cewch chi drwy anfon e-bost at childrenandyoungpeoplesrights@cymru.gsi.gov.uk

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website