Ysgol Effeithiol
Mae cyfranogiad disgyblion wrth graidd ymdrechion i ddatblygu ysgolion mwy effeithiol. Yng ngeiriau’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (LlCC, 2008):
“Erbyn hyn, mae’n rhaid i bob ysgol yng Nghymru gael cyngor ysgol effeithiol ar waith. Dylid defnyddio’r rhain er mwyn i blant a phobl ifanc gyfrannu’n weithredol at gynllunio a rheoli’u hamgylchedd dysgu, gan roi llais clir iddynt yn y broses ddysgu a chanlyniad y broses honno. Mae’n rhaid i gyfraniad plant a phobl ifanc mewn agweddau ehangach ar ddysgu adeiladu ar waith cynghorau ysgolion er mwyn sicrhau ymgysylltiad gwirioneddol yn y broses ddysgu.”
Pan fydd dysgwyr yn cyfrannu’n weithgar ym mhob rhan o’r Model Effeithiolrwydd Ysgolion, maent yn fwy tebygol o ymwneud â bywyd yr ysgol, gan arwain at well dysgu a gwell ymdeimlad o les.
Gweler y DVD isod sydd yn dangos enghreifftiau arfer gorau am sut y gellir datblygu llais y disgybl fel rhan o effeithiolrwydd ysgol.
Pan fydd dysgwyr yn cyfrannu’n weithgar ym mhob rhan o’r Model Effeithiolrwydd Ysgolion, maent yn fwy tebygol o ymwneud â bywyd yr ysgol, gan arwain at well dysgu a gwell ymdeimlad o les.
Datblygwyd Offeryn Hunanwerthuso i'ch helpu i fesuro'r gwellainnau hyn.
Dolenni
Y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (cyswllt allanol)


