Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Un Gymru, Sawl Llais

’Un Gymru, Sawl Llais' – DVD i ysgolion ar ddiwallu anghenion disgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng Nghymru

Mae datgloi potensial pob plentyn wrth wraidd strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg. Yn ganolog i hyn mae ymrwymiad i wneud Cymru'n wlad sydd ag agwedd gynhwysol tuag at addysg a dysgu. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod disgyblion o bob cefndir ethnig yn cael cyfle cyfartal i gyflawni eu potensial ym mhob agwedd ar fywyd ysgol.

Mae'r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yn rhoi gwella dysgu a lles plant a phobl ifanc yng nghanol popeth y dylai cymuned addysg Cymru fod yn ei wneud. Mae egwyddor cydraddoldeb yn sail iddo, ac mae'n rhwymo pawb sy'n cymryd rhan yn y system addysg i weithio gyda'i gilydd i sicrhau'r canlyniadau dysgu gorau i bob dysgwr ym mhob sefydliad.

Mae 'Un Gymru, Sawl Llais' yn casglu ynghyd enghreifftiau o arfer da, o ran helpu disgyblion o leiafrifoedd ethnig, o amrywiaeth o sefydliadau ledled Cymru.. Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio fel adnodd i ymarferwyr, sy'n cynnwys canllawiau ymarferol i alluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu ffyrdd effeithiol o hyrwyddo safonau uchel ar gyfer darparu addysg i ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig mewn ysgolion.

Mae'r DVD yn dangos pa mor broffesiynol ac ymrwymedig yw'r Gwasanaethau Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig a'u cydweithwyr addysgu ledled Cymru. Rydym yn mawr obeithio y bydd yr adnodd hwn yn ddull gwerthfawr o hybu effeithiolrwydd ysgolion drwy hyfforddiant, datblygu personol a chydweithio â staff arbenigol ac eraill.

Mae'r DVD llawn yn cynnwys y meysydd canlynol: Cyrraedd a Sefydlu; Asesu; Nodi Anghenion Addysgol Arbennig; Cydweithredu; Cymorth Amlieithog; Iaith Gyntaf/Mamiaith; Sefydliadau Cyfrwng Cymraeg, Mentora a Gwrando ar Blant a Phobl Ifanc.

Mae'r DVD llawn yn weddol hir, yn para awr a hanner, ond mae modd dethol 'penawdau' unigol i'w gwylio.

’Un Gymru, Sawl Llais' - DVD

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website