Swyddogaethau Allweddol
Awgrymir y dylid cyflwyno’r swyddogaethau canlynol er mwyn sicrhau bod cyfranogiad disgyblion yn digwydd mewn modd cyfannol:
- Uwch-aelod o’r staff yn gyfrifol am greu, datblygu ac arolygu y Polisi Cyfranogiad Disgyblion;
- Aelod penodedig o’r Llywodraethwyr yn gyfrifol am fonitro’r polisi a chysylltu â chyngor yr ysgol a Disgybl-Lywodraethwyr Cyswllt;
- Athro Cyswllt Cyfranogiad Disgyblion yn gyfrifol am lais disgyblion ledled yr ysgol, gan gynnwys cyrff sy’n cynrychioli’r disgyblion, megis Cyngor yr Ysgol, yr Eco-bwyllgor, Grŵp Ysgolion Iach a Mentoriaid Cyd-ddisgyblion.
Yma gellir lawrlwytho awgrymiadau ynghylch disgrifiadau o’r swyddogaethau ar gyfer y staff hyn.
Dylai ysgolion hefyd gael cefnogaeth o ran hyfforddiant a chyngor ar lefel yr awdurdod lleol. Cewch yma hefyd restr o enwau cyswllt yn yr awdurdodau lleol.


