Dysgu ac Addysgu
Mae ymchwil wedi dangos pa mor bwysig ydyw i ddisgyblion chwarae rhan weithgar yn eu dysgu fel bod hynny’n ennyn eu diddordeb, fel bod dulliau addysgu yn bodloni eu hanghenion, ac fel eu bod yn gallu myfyrio ar eu dysgu eu hunain.
Mewn rhai ysgolion yng Nghymru, mae disgyblion yn chwarae rhan weithgar wrth osod targedau dysgu, gwerthuso a gwella dysgu ac addysgu. Yn yr adran hon o’r wefan gallwch weld sut mae cynnwys disgyblion yn y prosesau hyn wedi gwella dysgu a lles.
Mae’r dull hwn o weithredu yn adeiladu ar sail yr egwyddorion a amlinellwyd yn y model ar gyfer pedagogeg effeithiol. Mae’r model yn disgrifio’r amodau sy’n ofynnol er mwyn i’r dysgu a’r addysgu mwyaf effeithiol ddigwydd. Pan fydd strategaethau dysgu, y broses ddysgu, perthynas pobl a’i gilydd a’r amgylchedd, ac arferion myfyriol parhaus yn gweithio ynghyd mewn modd cyfannol gellir sicrhau’r canlyniadau dysgu gorau a’r lles gorau ar gyfer y dysgwyr.


