Datblygu Llais y Dysgwr yn Ysgol Gyfun Oakdale
Cynhaliwyd archwiliad gwersi yn yr ysgol.
Cafodd y staff wybod y byddai disgyblion rywbryd dros gyfnod o bythefnos yn ateb holiadur yn canolbwyntio ar un wers yr oeddent wedi’i mynychu, ond ni roddwyd yr union amseroedd.
Ar ddydd Llun y 10fed o Dachwedd ym munudau olaf gwers 1 cafodd yr holiaduron eu danfon i'r ystafelloedd dosbarth.
Ar ôl cyrraedd gwers 2 cwblhawyd yr holiadur gan bob disgybl oedd yn yr ysgol ar y diwrnod hwnnw gan ganolbwyntio ar eu profiad yng ngwers 1.
Oherwydd y ffordd y cafodd y broses hon ei chyflawni roedd yn adlewyrchiad cywir o ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn Oakdale o safbwynt y disgyblion.
Roedd tair rhan i’r holiadur:
- Strwythur y wers;
- Canfyddiad o ganlyniadau’r wers;
- Perthynas rhwng staff a disgyblion a'r canfyddiad o'r athrawon.
Cafodd y data ei ddadansoddi a chynhyrchwyd adroddiad nad oedd yn dod i unrhyw gasgliadau. Ysgogwyd llawer o drafod yn ystafell y staff ac roedd yn bwynt ar agenda'r cyfarfodydd maes cwricwlwm.
Grŵp Llais y Myfyrwyr
Yn Ionawr 2011 ffurfiwyd Grŵp Llais y Myfyrwyr. Roedd yn cynnwys naw disgybl o flwyddyn 7 i flwyddyn 10. Rydym yn is-grŵp o gyngor y myfyrwyr, ac mae aelodau'r cyngor yn cael eu hethol gan eu dosbarthiadau.
Fe wnaethom gyfarfod am dri sesiwn. Roedd ffocws clir ym mhob sesiwn:
- Beth yw nodweddion athro da;
- Beth sy'n gwneud gwers dda;
- Beth sy'n rhwystro eu dysgu mewn dosbarth a beth sy'n eu helpu i ddysgu.
Yn ystod pob sesiwn bu’r myfyrwyr yn trafod y ffocws a chreu poster ar y thema. Cafodd y posteri eu harddangos yn ystafell y staff ar yr hysbysfwrdd addysgu a dysgu. Cafodd adroddiad yn rhoi manylion am y posteri hyn ei ddosbarthu i bob aelod o’r staff.
Ym mis Mawrth 2011 cynhyrchwyd DVD gennym yn crynhoi canfyddiadau llais y myfyrwyr. Cafodd y DVD ei ddangos i'r holl ddisgyblion yn ystod Gwasanaethau a gymerwyd gan ein Dirprwy Bennaeth. Mae'r staff yn mynychu gwasanaethau gyda'u dosbarthiadau, ac roedd hyn yn sicrhau bod yr holl staff a'r disgyblion yn gweld y canfyddiadau ac roedd yn amlwg i’r disgyblion bod y staff wedi gweld y DVD.
Mae'r adborth o'r disgyblion wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae llawer wedi gwneud sylwadau ar eu hempathi tuag at y safbwyntiau a fynegwyd, er enghraifft, dywedodd un disgybl 'Roedd y DVD yn dda iawn am eu bod yn dweud yr hyn yr ydym i gyd yn ei feddwl.'


