Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Cyngor yr Ysgol

Penglais High School Council membersGrŵp cynrychioliadol o ddisgyblion yw cyngor ysgol, a’r disgyblion hynny wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu safbwyntiau a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Gall cyngor yr ysgol hefyd fwrw ymlaen â mentrau a phrosiectau ar ran eu cyd-ddisgyblion, a chyfrannu at gynllunio a phrosesau strategol megis Cynllun Datblygu’r Ysgol, cyfarfodydd y corff llywodraethu a phenodiadau staff.

Gall cynghorau ysgol helpu plant a phobl ifanc i:

  • Fwynhau eu haddysg a theimlo bod yr addysg honno yn eu grymuso;
  • Teimlo bod eu hysgol yn ymateb i’w hanghenion;
  • Cael y cyfle i roi gwybod i oedolion am eu teimladau a’u safbwyntiau ynghylch y pethau sy’n effeithio arnynt;
  • Mynegi barn am benderfyniadau, a chwarae rhan weithgar wrth wneud eu hysgol yn well lle;
  • Datblygu sgiliau bywyd gweithgar drwy gyfranogi.

Yn yr adran hon o’r wefan cewch wybodaeth am sefydlu, datblygu a gwerthuso cyngor ysgol. 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website