Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Cyfranogiad mewn gwahanol Gyd-destunau

Ysgol LlandysulMae Llwybrau Dysgu 14-19 yn ymwneud â chyfle cyfartal i bobl ifanc drwy sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad at brofiadau ehangach. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i gyrraedd eu nod o sicrhau, erbyn 2015, y bydd 95% o bobl ifanc, erbyn y byddant yn 25 oed, yn barod ar gyfer cyflogaeth grefftus neu addysg uwch.

Bydd y polisi yn helpu i godi cyrhaeddiad addysgol cyn 16 ac ar ôl 16, yn lleihau nifer y bobl ifanc sy’n gadael addysg amser llawn heb ddim cymwysterau; yn gwella cyfran y bobl ifanc 16 oed sy’n mynd i ddysgu pellach neu hyfforddiant seiliedig ar waith; ac yn lleihau nifer yr unigolion 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEETS). Bydd yn cyflawni hyn drwy greu llwybrau unigol a fydd yn gydnaws ag anghenion, diddordebau a dyheadau’r dysgwr a drwy ddarparu mynediad at wasanaethau cymorth sy’n eu helpu i oresgyn unrhyw rwystrau rhag cyflawni eu potensial. Ysgol y Preseli

Cefnogir y polisi gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 sy’n darparu sylfaen statudol ar gyfer cydweithredu rhwng ysgolion a gynhelir a cholegau addysg bellach, ac ar gyfer darparu cyfuniad unigryw o wasanaethau cymorth i ddysgwyr megis Anogwr Dysgu, Cymorth Personol a gwasanaethau arbenigol. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at y gwasanaethau hyn, gwasanaethau y gallant helpu pobl ifanc i oresgyn unrhyw rwystrau personol, cymdeithasol, emosiynol neu rwystrau sy’n gysylltiedig â dysgu er mwyn eu galluogi i wneud dewisiadau deallus a’u helpu i barhau i ddysgu.

Mae’r Mesur hefyd yn sicrhau y gall dysgwyr ddewis cwrs astudiaeth o blith dewis eang o opsiynau gan gynnwys cyrsiau galwedigaethol ac academaidd; gweithredwyd hyn o Fedi 2009 ymlaen ar gyfer disgyblion cyn 16 (Cyfnod Allweddol 4). Erbyn 2012, bydd pob disgybl blwyddyn 10 yn gallu dewis o gwrs astudiaeth o gwricwlwm ardal leol, a elwir yn ‘Dewislen’, y mae’n rhaid iddi gynnwys o leiaf 30 o gyrsiau i ddewis ohonynt, gan gynnwys o leiaf 5 cwrs galwedigaethol.

Dolenni:

 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website