Amgylchedd yr Ysgol
Pan ymgynghorir yn rheolaidd â disgyblion a’u cynnwys mewn cyfleoedd i gyfrannu at wneud penderfyniadau, gall hyn arwain at ganlyniadau cadarnhaol o ran gwell amgylchedd yn yr ysgol, yn ogystal â gwell perthynas rhwng pobl a’i gilydd a gwell lles ymhlith y disgyblion.
Yn yr adran hon o’r wefan cewch wybod sut mae disgyblion wedi cyfrannu at wella eu hamgylchedd o safbwynt:
- Yr amgylchedd diriaethol;
- Cynaliadwyedd;
- Mentrau ysgolion iach; a
- Lles disgyblion.
Os hoffech ddweud wrthym am rywbeth y mae eich disgyblion chi yn cyfrannu ato, anfonwch astudiaeth achos atom ar: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk


