Cymerwch ran
Yn yr adran hon o’r wefan cewch ragor o wybodaeth a deunyddiau ategol sy’n ymwneud â sut i ddatblygu cyfranogiad effeithiol ymhlith disgyblion eich ysgol, gan gynnwys sut i ddatblygu agwedd ysgol gyfan, a phwy y mae angen eu cynnwys. Ar ochr dde’r dudalen hon cewch enghreifftiau o strwythurau posibl ar gyfer ysgol gyfranogol.
Cewch yma wybodaeth ac astudiaethau achos ategol sy’n ymwneud â sut i ddatblygu grwpiau a mentrau yn yr ysgol a fydd yn annog cyfranogiad gan ddisgyblion – yn enwedig cyngor yr ysgol, ysgolion iach ac eco-sgolion. Eglurir hefyd ran cyfranogiad disgyblion yn y cwricwlwm, ac mewn gwella dysgu ac addysgu ac amgylchedd yr ysgol.
Yn olaf, cewch yma hefyd y cynghorion gorau ac astudiaethau achos sy’n ymwneud â datblygu cyfranogiad disgyblion ar gyfer gwahanol leoliadau.


