Wythnos Gwrth-Fwlio ym Mharc Cornist
Fe wnaethon ni:
Buom yn rhan o wythnos gwrth-fwlio gan fod gwrth-fwlio’n rhan o Gynllun Datblygu’r Ysgol ac yn un o’r cynlluniau gweithredu ar gyfer cam 3 Cynllun Ysgolion Iach.
Ein hamcanion oedd:
- Codi ymwybyddiaeth ynghylch effeithiau bwlio
- Addysgu disgyblion a rhieni am fwlio a datblygu strategaethau gwrth-fwlio
- Ysgrifennu/diweddaru polisi gwrth-fwlio newydd ar gyfer rhieni a fersiwn addas i blant ar gyfer disgyblion.
Sut gwnaethon ni hyn:
Isod, gwelir rhai o'r gweithgareddau a ddigwyddodd:
- Cystadleuaeth cerddi dosbarth am fwlio. Dangoswyd y gwaith ar fwrdd arddangos ‘gwrth-fwlio’ ar gyfer yr ysgol gyfan
- Awgrymodd cyngor yr ysgol fod pob dosbarth yn cael ‘blwch bwli’ yn y dosbarth. Yma, gallai plant leisio eu pryderon/problemau/cwestiynau. Defnyddiodd yr athrawon gynnwys y ‘blwch bwli’ i ‘lywio’ eu hamser cylch/gwers ABCh yr wythnos honno yn y dosbarth
- Aeth pob dosbarth ati i greu tudalen awgrymiadau drwy osod nodiadau bach i awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â bwlio. Rhoddwyd y rhain i gyngor yr ysgol ar gyfer llunio polisi gwrth-fwlio addas i blant
- Anfonwyd copi o’r polisi gwrth-fwlio i’r cartrefi a rhoddwyd blwch sylwadau rhieni yng nghyntedd yr ysgol er mwyn i rieni gael cyfle i gyflwyno sylwadau ar y polisi
- Lluniodd cyngor yr ysgol bolisi gwrth-fwlio addas i blant a ddangosir ym mhob ystafell ddosbarth ac mae’n defnyddio amrywiaeth o sgiliau meddwl
- Bu cyngor yr ysgol yn ymgynghori â phob dosbarth am syniadau ac awgrymiadau ar gyfer eu polisi
Canlyniadau:
Bu plant yn gwerthuso’r polisi gwrth-fwlio addas i blant gan ddefnyddio amrywiol sgiliau meddwl megis dwy seren a dymuniad a Phwyso a Mesur (PMI). Roedd ymateb y staff, y rhieni a’r plant yn gadarnhaol iawn. Erbyn hyn, mae’r plant yn gwybod mwy am fwlio a’r camau priodol i’w cymryd os byddan nhw neu rywun y maen nhw’n ei adnabod yn cael eu bwlio. Mae cynnwys staff, llywodraethwyr, rhieni a phlant wedi sicrhau bod y polisi yn creu effaith gadarnhaol iawn.

Rhai aelodau o’r cyngor ysgol gyda pholisi gwrth-fwlio cyfeillgar i blant Cornist Park.
Manylion cyswllt:
Enw: Kellie Williams - Cydlynydd Ysgolion Iach
Rhif ffôn: 01352 735657
E-bost: kelliewilliams@cornistpark.sch


