Canllaw Arfer Da: Prosiect Cyfiawnder Ieuenctid – Proffesiynol
Cyfranogiad Cyfannol Disgyblion mewn amgylchedd gwahanol
“Yr hyn den ni eisiau ei wneud yw galluogi pobl ifanc i wneud dewisiadau.” - Rob Richards
Rhywle lle mae cyfle i bobl ifanc chwarae rhan yw Prosiect Cyfiawnder Ieuenctid Abertawe, a hynny mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael cymorth i ddatrys problemau y maen nhw’n eu hwynebu o bosibl, yn ymwneud â heriau a hunan-barch isel. Gallan nhw ddatblygu portffolio o sgiliau, gan gynnwys hunanhyder, a all arwain at gyflogaeth neu hyfforddiant pellach.


