Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Y Cyd-destun Rhyngwladol

Group of pupils at Waunarlywdd Primary SchoolMae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn) yn gytundeb rhyngwladol sydd wedi’i lofnodi gan 192 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig. Mae’r Confensiwn yn rhoi eu set o hawliau eu hunain i’r holl blant a phobl ifanc iau na 18 oed, a gelwir yr hawliau hynny’n “erthyglau”. Mae Erthygl 12 y Confensiwn yn datgan bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i fynegi safbwyntiau ar faterion sy’n effeithio arnynt, a’r hawl i’r safbwyntiau hynny gael eu cymryd o ddifrif.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi pwys mawr ar y Confensiwn, ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu dull strategol cenedlaethol o godi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn a galluogi i blant a phobl ifanc yng Nghymru fanteisio ar eu hawliau. Mae’r ymrwymiad hwn yn amlwg yn y modd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnwys plant a phobl ifanc wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a datblygu gwasanaethau. Mae pobl ifanc wedi’u cynnwys hefyd mewn penodiadau allweddol, megis swydd Comisiynydd Plant Cymru.

Yn yr adran hon o’r wefan gallwch lawrlwytho Pecyn Cymorth y Confensiwn a Chwis i’ch cynorthwyo i ddeall y Confensiwn a sut mae’n effeithio ar eich disgyblion. 
 

I gael rhagor o wybodaeth am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ewch i

Dolenni:

 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website