Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Y Cyd-destun Cenedlaethol

Group of pupils at a secondary school in LlandysulY Wlad Sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar WaithMae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i gyfranogiad plant a phobl ifanc mewn nifer o ddogfennau polisi allweddol. Gallwch ddysgu mwy am rai o’r rhain sydd wedi’u cyflwyno hyd yn hyn drwy glicio ar y dolenni ar ochr dde’r dudalen hon.

Mae nifer o strwythurau ar waith yng Nghymru hefyd sy’n cefnogi cyfranogiad plant a phobl ifanc, a hynny yn genedlaethol ac yn lleol. Yn yr adran hon o’r wefan gallwch lawrlwytho sleid PowerPoint sy’n dangos y prif strwythurau, a darllen mwy am y sefydliadau sy’n ymwneud â hyrwyddo a datblygu cyfranogiad. Gallwch hefyd lawrlwytho diagram sy’n dangos rhan Cynghorau Ysgol mewn cyfranogiad ehangach.

Yn sgil cyflwyno Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 yr oedd gofyn i bob ysgol yng Nghymru sefydlu cyngor ysgol erbyn 1 Tachwedd 2006, ac mae’r rheoliadau hyn wedi gosod rhai gofynion penodol y mae’n rhaid i ysgolion gydymffurfio â hwy. Dilynwyd y Rheoliadau hyn ym mis Hydref 2006 gan ddogfen fanylach, sef y Canllawiau i Gyrff Llywodraethu ar Sefydlu a Gweithredu Cynghorau Ysgol. Mae canllawiau statudol pellach yn destun ymgynghori ar hyn o bryd, a’u diben yw cefnogi ysgolion i hyrwyddo a datblygu cyfranogiad disgyblion fel elfen hanfodol o ysgol effeithiol.

Dolenni:

Strategaethau a Pholisïau

Strwythurau a Sefydliadau

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website