Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Manteision Cyfranogi

Teacher with students secondary school in Llandysul

Mae ymchwil ac enghreifftiau o astudiaethau achos yn awgrymu bod datblygu cyfranogiad plant a phobl ifanc yn gallu bod yn fuddiol i unigolion, sefydliadau a chymunedau.

Mae disgyblion sy’n cyfrannu at wneud penderfyniadau yn dweud bod ganddynt well hunan-barch ac ysgogiad, yn magu sgiliau personol, cymdeithasol a threfniadol pwysig, ac yn ymgyfarwyddo â phrosesau grŵp a phrosesau democrataidd.

Ar lefel sefydliadol, mae cynnwys disgyblion wrth wneud penderfyniadau yn medru arwain at well perthynas rhwng pobl a’i gilydd, polisïau sy’n fwy perthnasol ac effeithiol, a gwell dysgu. Yn y sefyllfaoedd gorau, bydd disgyblion ac oedolion yn gweithio ynghyd fel partneriaid i sicrhau bod eu hysgol yn darparu’r amgylchedd dysgu gorau posibl i bawb. Mae gan ddisgyblion ran bwysig i’w chwarae wrth gynorthwyo eu hysgolion i wella pob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Mae cyfranogiad disgyblion wrth graidd y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion a cheir cysylltiad rhyngddo a gwell lles ymhlith y disgyblion a gwell canlyniadau dysgu. Mae llais dysgwyr hefyd yn chwarae rhan bwysig yn Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn ar ôl 2010.

Yma gallwch lawrlwytho adroddiad ymchwil a wnaed yng Nghymru ar fanteision cyfranogiad gan blant a phobl ifanc, ac Arweinlyfr Arferion Gorau sy’n cynnwys astudiaethau achos o wahanol leoliadau.

Yma gallwch lawrlwytho adroddiadau ymchwil a wnaed yng Nghymru ar fanteision cyfranogiad gan blant a phobl ifanc.

Awgrymodd adroddiad ymchwil a gyhoeddwyd ym 2010 sut y gall ystyried safbwyntiau dysgwyr gyfrannu at well ddysgu.

Dywedwch wrthym sut mae eich ysgol chi wedi elwa yn sgil cyfranogiad disgyblion drwy anfon ebost at: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk

Dolenni:

 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website