Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Beth yw Cyfranogiad Disgyblion?

Penglais High School Council membersAmcan cyfranogiad disgyblion yw datblygu diwylliant mewn ysgolion lle mae gan yr holl blant a phobl ifanc lais a chyfle i chwarae rhan weithgar mewn penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu dysgu a’u lles, fel yr amlinellir yn Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Er bod cael cyngor ysgol gweithgar yn rhan hanfodol o hyn, un elfen yn unig ydyw.

Dylai cyfranogiad disgyblion ddigwydd mewn amrywiaeth o ffyrdd ac ar wahanol lefelau o fywyd ysgol. Dyma rai ohonynt:

  • Yn rhan o ddysgu ac addysgu;
  • Prosesau megis amser cylch, grwpiau ffocws, ac ymgynghoriadau;
  • Grwpiau cyfranogol megis cyngor yr ysgol, yr eco-bwyllgor, ysgolion iach a mentoriaid cyd-ddisgyblion;
  • Cael strwythurau ar waith fel y gall yr holl ddisgyblion gymryd rhan wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys y rheini a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol;
  • Defnyddio’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad.

Yn y rhan hon o’r wefan gallwch lawrlwytho enghreifftiau o strwythurau posibl ar gyfer ysgol gyfranogol a chyflwyniad PowerPoint sy’n egluro cyfranogiad disgyblion mewn cyd-destun. Cewch yma hefyd ddolenni i rannau eraill a fydd yn gallu eich cynorthwyo i ddatblygu ysgol gyfranogol.

Am ragor o wybodaeth ac enghreifftiau o sut mae hyn yn gweithio’n ymarferol, ewch i adran Cymryd Rhan y wefan hon, a mynnwch gip ar yr Astudiaethau Achos.

Dolenni:

 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website