Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Beth yw Cyfranogi?

Pupil at Waunarlywdd Primary SchoolMae’r term “cyfranogi” fel y mae’n cael ei ddefnyddio ar y wefan hon yn cyfeirio at wrando ar safbwyntiau plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a rhoi rhan weithgar iddynt mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Proses yn hytrach na digwyddiad yw cyfranogi, a cheir gwahanol raddau o gymryd rhan, o ymgynghori ynghylch mater y penderfynwyd arno ymlaen llaw i bobl ifanc yn dewis eu hagenda, yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain ac yn mynd ati i’w rhoi ar waith. Ceir nifer o fodelau sy’n disgrifio graddau cyfranogi, a gallwch weld dau ohonynt yma, sef Ysgol Hart a Phum Gradd Cyfranogi Treseder. Mae’n ddefnyddiol ystyried pa radd o gyfranogi sydd fwyaf addas ac effeithiol mewn gwahanol leoliadau a sefyllfaoedd.

Yn 2004 bu i’r Prosiect Cyfranogi yn Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal cystadleuaeth i greu diffiniad cenedlaethol o gyfranogi a fyddai’n hawdd i oedolion a phobl ifanc ei ddeall. Dyma’r diffiniad buddugol: "Ystyr cyfranogiad yw bod gennyf yr hawl i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, o gynllunio ac o adolygu unrhyw gam a allai effeithio arnaf i. Cael llais, cael dewis"

Rydym wedi datblygu set o Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru sy’n cynorthwyo sefydliadau i ddilyn arferion da pan fyddant yn cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau. Mae Pecyn Hunan-asesu Safonau Cenedlaethol wedi’i ddatblygu hefyd a'i dreialu mewn ysgolion yng Nghymru. Ceir rhagor o wybodaeth a chyngor am sut i ddatblygu a gweithredu cyfranogiad gan blant a phobl ifanc yn effeithiol mewn set o 'Ganllawiau Tanio'.

Y mae'r rhain ar gael i'w llawrlwytho o: www.participationworkerswales.org.uk

Dolenni:

 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website