Newyddion
31.01.2012
Digwyddiad Cynghorau Ysgolion Cynradd Barnardos
Ym mis Chwefror 2012, yn dilyn llwyddiant y Digwyddiad Cynghorau Ysgol y llynedd, bydd dros 100 o blant ysgolion cynradd ledled y ddinas yn dod unwaith eto i Fae Caerdydd i ddathlu llais plant.
Bydd y diwrnod yn gyfle gwych i gynghorau ysgol rannu arfer gorau, a bydd hefyd llu o weithgareddau llawn hwyl ar gael a chyfle i'r plant gael dweud eu dweud o ran datblygu Strategaeth Cyfranogiad Caerdydd.
Y llynedd, dewisodd y plant roi’r enw ‘Plant y Ddinas’ ar y cyngor ysgol mawr hwn, ac eleni, mae ‘Plant y Ddinas’ yn fwy, yn well, ac yn creu fwy o sŵn nag erioed o’r blaen!
Darllenwch ragor i gymryd rhan, a gweld yr adroddiad ar ddigwyddiad penigamp y llynedd.....


