Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Modiwlau Hyfforddi ar gyfer Arweinwyr Uwch, Llywodraethwyr a Staff

Cyflwyniad i’r pecyn cyfan

Nod y deunyddiau hyfforddi hyn yw helpu uwch-arweinwyr, llywodraethwyr a staff mewn ysgolion yng Nghymru i gael yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i helpu i ddatblygu cyfranogiad effeithiol ymhlith disgyblion. Mae hyn yn gysylltiedig â’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion, gwaith ysgolion o’u gwerthuso eu hunain a Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn.

Mae’r deunyddiau hyn wedi’u treialu’n helaeth ledled Cymru, gan gynnwys mewn lleoliadau hyfforddi athrawon ac ymhlith uwch-arweinwyr a llywodraethwyr.

Trefnir y deunyddiau yn ôl 3 thema â chod lliwiau:

Thema 1: “Beth yw Cyfranogiad Disgyblion?

Thema 2: “Beth mae Cyfranogiad Disgyblion yn ei olygu mewn gwirionedd?

Thema 3: “Rhoi Cyfranogiad Disgyblion ar waith

Mae nifer o weithgareddau i bob thema, a gyflwynir trwy ddalenni hyfforddwyr ynghyd ag adnoddau ategol i’w paratoi a thaflenni gwybodaeth. Mae sleidiau PowerPoint hefyd yn gysylltiedig â’r gweithgareddau, a rhai ymarferion i helpu’r hyfforddwyr i symbylu’r cyfranogwyr a’u rhannu’n grwpiau.

Mae’r gweithgareddau hyfforddi yn gwbl ddwyieithog, gan ei gwneud yn bosibl i’r hyfforddwyr a’r cyfranogwyr gael gafael ar y deunyddiau yn eu dewis iaith.

Ynghyd â’r pecyn hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol mae Gweithgareddau Pobl Ifanc, y gall disgyblion eu defnyddio i hyfforddi eu cyfoedion neu aelodau o staff mewn elfennau o gyfranogiad disgyblion. Mae clipiau DVD hefyd ar gael, sy’n dangos sut mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn y De wedi defnyddio’r gweithgareddau i hyrwyddo llais y disgybl. Mae’r dalenni hyfforddi yn yr adnodd hwn ar gael un ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, er bod yr adnoddau ategol yn gwbl ddwyieithog.

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website