Manylion Cyswllt Defnyddiol
Weithiau bydd arnom angen pobl i’n helpu i hyrwyddo a datblygu cyfranogiad effeithiol. Yn yr adran hon o’r wefan cewch restr o bobl a sefydliadau a fydd yn gallu eich cefnogi drwy gyfrwng gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant, gan gynnwys manylion cyswllt lleol.
Mae cyfleoedd i blant a phobl ifanc gyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn ehangach nag ar lefel ysgolion unigol. Yma cewch fanylion cyswllt ar gyfer eich fforwm neu gyngor ieuenctid lleol, ac ar gyfer Y Ddraig Ffynci, sef y Cynulliad i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru.
Un o’r ffyrdd mwyaf defnyddiol o gael gafael ar gymorth a chefnogaeth yw drwy rwydweithio gydag ysgolion eraill yn eich ardal. I gael enghreifftiau o sut mae rhai ysgolion wedi gwneud hyn, mynnwch gip ar yr adran “Rhannu Arferion Da” yn yr astudiaethau achos.
Cysylltiadau
y Ddraig Ffynci : http://www.funkydragon.org
Comisiynydd Plant Cymru : http://www.complantcymru.org.uk
Consortiwm ac Uned Cyfranogiad : http://www.participationworkerswales.org.uk
Plant yng nghymru : http://www.plantyngnghymru.org.uk
Llywodraethwyr Cymru : http://www.governorswales.org.uk


