Hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol – Trosolwg
Ar y dudalen hon ceir trosolwg o’r deunyddiau hyfforddi, er mwyn ichi allu gweld pa weithgareddau y dylech eu cynnal i ddiwallu anghenion eich cynulleidfa, a pha adnoddau cysylltiedig y mae angen ichi eu paratoi.
Disgrifir pob gweithgaredd yn nhermau:
- Ei rif a’i deitl;
- Ei ddiben;
- Yr adnodd i’w baratoi (sydd ar gael yn y pecyn yn syth ar ôl dalenni’r hyfforddwr);
- Taflenni gwybodaeth (sydd hefyd ar gael yn y pecyn);
- Dolenni gwe (â chod lliwiau yn ôl y Thema y maent yn gysylltiedig â hi).
Mae’r trosolwg hefyd yn awgrymu ffyrdd o ddefnyddio’r deunyddiau, hynny yw o ran pa themâu a gweithgareddau y gall hyfforddwyr eu defnyddio yn unol â gwybodaeth a dealltwriaeth eu cynulleidfa, a rhaglen ar gyfer digwyddiad hyfforddi un diwrnod. Mae’r deunyddiau hyfforddi yn hyblyg, fodd bynnag, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn eu defnyddio mewn ffordd greadigol, yn unol â’r amser a’r adnoddau sydd ar gael ichi.
A fyddech cystal â rhoi eich barn am yr adnoddau hyfforddi hyn a dweud wrthym am eich profiad o’u defnyddio drwy anfon eich sylwadau i: childrenandyoungpeoplesrights@cymru.gsi.gov.uk.


