Deunyddiau Hyfforddi ar gyfer Oedolion
Mae hyfforddiant yn bwysig er mwyn i bobl deimlo’n hyderus ac yn gymwys i hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad. Mae’r adran hon o’r wefan yn cynnwys modiwlau hyfforddi ar gyfer staff a llywodraethwyr sydd wedi’u cynllunio ar gyfer eu defnyddio ar ddiwrnod cyflwyno neu yn ystod sesiwn gyda’r hwyr.
Gallwch hefyd lawrlwytho canllawiau o’r enw “Blast off Guides” a fydd yn eich tywys drwy’r broses o hyrwyddo, datblygu a gwerthuso cyfranogiad yn eich ysgol, yn ogystal ag Offeryn Hunanasesu y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad a phecyn cymorth y gellir eu defnyddio i fesur y cynnydd yr ydych yn ei wneud.
Rhowch wybod inni beth yw eich barn am y deunyddiau hyn drwy gysylltu â ni ar: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk.
Dolenni:
Y mae’r Canllawiau Arferion Da ar Gyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc, Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc, a Phecyn Hunan-asesu Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc I gyd ar gael i’w llawrlwytho o wefan
Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru:
http://www.participationworkerswales.org.uk/resources.aspx
Modiwlau hyfforddi ar gyfer Uwch-arweinwyr, Llywodraethwyr a Staff:
Mae modiwlau hyfforddi ar gyfer uwch-arweinwyr, llywodraethwyr a staff ysgolion, a gynlluniwyd i’w defnyddio ar ddiwrnod HMS neu yn ystod sesiwn ôl-ysgol ar gael!


