Cyflwyno’r achos
Er mwyn i gyfranogiad disgyblion arwain at y manteision gorau posibl i ddisgyblion ac i gymuned eich ysgol, mae angen i aelodau’r staff ddeall beth yn union yw cyfranogiad disgyblion, pam mae’n bwysig a sut y gall pawb sicrhau ei fod yn llwyddiant.
Yn yr adran hon o’r wefan cewch ddeunyddiau i’ch cynorthwyo i “ddadlau o blaid” cyfranogiad disgyblion, gan gynnwys cyflwyniad PowerPoint, Arweinlyfr Arferion Gorau, papur yn amlinellu manteision cyfranogiad gan blant a phobl ifanc, a rhai deunyddiau cyhoeddusrwydd.
Os teimlwch fod arnoch angen rhagor o ddeunyddiau a fyddai’n eich cynorthwyo i hybu cyfranogiad yn eich lleoliad chi, neu os oes gennych ddeunyddiau yr ydych chi wedi’u defnyddio ac sydd wedi bod yn hynod o llwyddiannus, cysylltwch â ni ar
childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk.


