Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
STRING_114
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Cystadlaethau

Testun ar Gystadleuaeth ‘Eich Dyfodol, Eich Delweddau’ ar gyfer gwefan Llais Disgyblion Cymru


Director PlapTrefnwyd Cystadleuaeth ‘Eich Dyfodol, Eich Delweddau’ yn sgîl lansiad gwefan newydd Llais Disgyblion Cymru ym mis Mawrth 2010. Roeddem ni am i blant a phobl ifanc yng Nghymru rannu eu profiadau a syniadau am gael llais mewn ffyrdd gweledol a chreadigol, ac annog plant a phobl ifanc eraill i ymweld â’r wefan.

Gofynwyd i bobl ifanc greu clipiau fideo yn dangos beth maen nhw wedi’i wneud i wella eu cymuned, neu yn dweud sut yr hoffen nhw i bethau fod yn wahanol.

Daeth 17 clip fideo i mewn oddi wrth ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a grwpiau ieuenctid ledled Cymru. Roeddem ni yn disgwyl i’r clipiau fod yn ddiddorol ac yn amrywiol – a chawsom ni ddim siom! Treuliodd panel dyfarnu, yn cynnwys chwech o blant a phobl ifanc ac oedolion, ddiwrnod gwych a llawn hwyl yn edrych ar y clipiau. Dyma rai o sylwadau’r panel:

“Roedd yn ddoniol ac yn greadigol tu hwnt.”
“Yn ddiddorol iawn – Roeddwn i’n dwli arno.”
“Roedd yn fendigedig, ac yn gwneud y pwynt yn dda iawn.”

Y ddau enillydd am Gymru gyfan yw:

Yn y diwedd, roedd rhaid dod i benderfyniad – a dyma’r canlyniadau!

  • Clwb Ieuenctid Tredegar Newydd, a
  • Clwb Ieuenctid Eglwys LDS, Merthyr Tydfil

Maen nhw yn ennill taith diwrnod bendigedig, gwerth hyd at £1,000.

Roedd’na 4 Eilydd, un ar gyfer pob un o bedwar categori - ysgolion Cynradd, Uwchradd, Arbennig a Grwpiau Ieuenctid.

  • Ysgol Gynradd Ynys y Bari
  • Ysgol Lewis, Pengam
  • Ysgol Portfield, Sir Benfro, a
  • Is-grwp Ieuenctid Hengoed

Maent yn ennill Camcorder Digidol Fflip ar gyfer eu grwp ysgol neu ieuenctid.

Llongyfarchiadau!

Gallwch weld y clipiau buddigol ar y wefan hon nawr!

Er bod rhaid i ni benderfynu ar enillwyr, fe wnaeth yr holl waith ac ymdrech a wnaed gan ysgolion a grwpiau ieuenctid argraff fawr arnom. Hoffem ddiolch i bawb a anfonodd clipiau atom, sef:

  • Ysgol y Preseli, Sir Benfro
  • Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Powys
  • Ysgol Uwchradd Connah’s Quay, Sir y Fflint#
  • Ysgol Uwchradd Porthcawl, Pen-y-Bont ar Ogwr
  • Ysgol Ty Coch, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Gynradd Hafod, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Monkton
  • Ysgol Gynradd Glyncollen, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan, Castell Nedd Port Talbot
  • Grwp Ieuenctid Markham, Caerffili
  • Grwp Ieuenctid Deri, Caerffili

Caiff pob clip fideo ei gyhoeddi ar y wefan hon yn ystod y wythnosau nesa’.

Caiff y fideos eu cyhoeddi yn yr iaith wreiddiol.  

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website