Yr Agwedd Mosaic
Lleoedd i Chwarae: casglu safbwyntiau plant, Alison Clark, Uned Ymchwil Thomas Coram, Athrofa Addysg, Llundain
Cyflwyniad
Sut y gallwn ni gynyddu ein dealltwriaeth o’r modd y mae plant yn defnyddio lleoedd i chwarae?
Sut y gallwn ni sicrhau bod safbwyntiau plant yn weladwy ac yn glywadwy, er mwyn iddynt fod yn fan cychwyn ar gyfer newid?
Mae’r astudiaeth beilot hon wedi ceisio gweithio gyda phlant tair a phedair oed mewn lleoliad cyn-ysgol i archwilio’u dealltwriaeth a’u defnydd o ddarpariaeth awyr agored, er mwyn llywio newid. Mae wedi defnyddio’r dull Mosaig sy’n cyfuno gwaith arsylwi a chyfweld, sy’n ddulliau ymchwil traddodiadol, â dulliau cyfranogol, sy’n cynnwys defnyddio camerâu, creu mapiau a defnyddio teithiau wedi’u harwain gan blant (Clark a Moss, 20011).
Mae’r prosiect peilot hwn wedi’i ariannu gan Sefydliad Bernard van Leer ac Ymddiriedolaeth Carnegie. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar yr amgylchedd awyr agored, ac mae wedi’i gynnal mewn cydweithrediad â Dysgu drwy Dirweddau, yr elusen genedlaethol ar gyfer tir ysgol. Mae Dysgu drwy Dirweddau wrthi’n gweithio gyda Phartneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caint a 15 lleoliad ar gyfer y blynyddoedd cynnar ledled y sir i ddatblygu dulliau hygyrch, technoleg isel, fforddiadwy y gellir eu copïo o ddatblygu eu hamgylchedd awyr agored. Mae’r ymchwil wedi’i gynnal yn un o’r lleoliadau hynny yng Nghaint.
Prosiect ‘Lleoedd i Chwarae’
Nodau ac Amcanion
Nod y prosiect peilot oedd cynnwys plant dan bump oed yn y prosesau gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â newidiadau i le chwarae yn yr awyr agored, gan edrych yn benodol ar:
Sut i wrando: ymestyn ac addasu’r dull Mosaig er mwyn llywio newidiadau i’r amgylchedd awyr agored.
Sut i gynnwys ymarferwyr a rhieni: archwilio sut i ddarparu fframwaith cyfranogi er mwyn i oedolion a phlant drafod gwahanol safbwyntiau.
Cam Un: Casglu safbwyntiau plant ac oedolion drwy arsylwi, yna defnyddio adnoddau cyfranogol - camerâu, gwaith creu llyfrau, teithiau, gwaith creu mapiau, a’r Carped Hud - gan orffen â’r cyfweliadau mwy ffurfiol â phlant, rhieni ac ymarferwyr.
Astudiaeth Achos
Roedd y Rheolwr a’r ymarferwyr yn y lleoliad cyn-ysgol am ddatblygu’r ddarpariaeth awyr agored, ac roeddent wedi cael grant bach gan Dysgu drwy Dirweddau i ddechrau ar y broses. Mae dros 80 o blant ar gofrestr y lleoliad cyn-ysgol, ac mae hyd at 36 o blant yn bresennol ym mhob sesiwn. Mae gan nifer o’r plant anghenion corfforol neu ymddygiadol arbennig. Mae’r lleoliad yn gwasanaethu ardal sydd dan anfantais economaidd.
Ynghyd â’r rhieni a’r ymarferwyr, bu 28 o blant tair a phedair oed yn cymryd rhan yn y prosiect peilot, a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2003 a mis Chwefror 2004.
Arsylwi: arsylwi sesiwn bore a sesiwn prynhawn yn gyffredinol, yna arsylwi pum plentyn yn benodol, a ddewiswyd ar hap.
Camerâu: gofynnwyd i 15 o blant, gan gynnwys rhai yr oedd rhywfaint o oedi yn eu datblygiad o ran lleferydd ac iaith, ‘dynnu ffotograffau o’r hyn sy’n bwysig yma’. Defnyddiodd y plant gamerâu na ellir eu defnyddio fwy nag unwaith a chamerâu syml y gellir eu hailddefnyddio.
Creu llyfrau: bu 10 o blant a oedd wedi tynnu’r nifer fwyaf o ffotograffau’n creu llyfrau unigol am y lle awyr agored. Datblygwyd dwy set o ffotograffau, un i’r plant ac un i’r ymchwilydd.
Teithiau: bu pedwar o blant yn cyfarwyddo ac yn recordio teithiau o amgylch y lle awyr agored, gan ddangos y lleoedd pwysig. Y plant oedd yn gyfrifol am bennu’r llwybr yn ogystal â phennu’r dull o recordio’r daith. Roedd gan bob pâr gamera a recordydd tâp bach.
Creu mapiau: bu wyth o blant yn gweithio mewn parau ac mewn grŵp o bedwar i greu mapiau o’r lle awyr agored gan ddefnyddio ffotograffau ac ychwanegu darluniau. Crëwyd y mapiau hyn ar ‘polos’ mawr – darnau crwn o bapur â thwll yn y canol er mwyn galluogi’r plant i ystyried y lle ‘yn y cylch’. Cafodd y mapiau eu harddangos yn ardal yr ystafell gotiau lle gallai’r rhieni, y staff a’r plant eu trafod.
Carped Hud: mae’r agwedd hon yn rhan newydd o’r Mosaig, ac mae wedi’i haddasu o syniad gan Christine Parker (20012) fel ffordd o siarad â phlant ifanc am wahanol leoedd. Crëwyd sleidiau o ganol y dref leol, y castell a’r parc (a chafodd y lluniau i gyd eu tynnu o lefel taldra plentyn). Edrychodd y plant ar y sleidiau hyn o’u hardal leol, gan eistedd mewn cornel dywyll o’r lle chwarae dan do, ar ‘Garped Hud’.
Cyfweliadau â’r plant: cynhaliwyd cyfweliadau ag 20 o blant ynghylch y modd yr oeddent yn defnyddio’r lle awyr agored a’r pethau a oedd orau ganddynt yno. Roedd y cwestiynau wedi’u strwythuro ond roedd fformat y cyfweliadau’n hyblyg, a chawsant eu cynnal y tu allan mewn man lle gallai’r plant ymlacio.
Cyfweliadau â’r ymarferwyr a’r rhieni: cynhaliwyd cyfweliadau byr â’r Rheolwr, tri aelod arall o staff a phedwar rhiant. Gofynnwyd i’r ymarferwyr beth yr oeddent yn mwynhau ei wneud gyda’r plant a beth fyddent yn hoffi ei newid. Gofynnwyd i’r rhieni beth yr oedd eu plant yn mwynhau ei wneud dan do a’r tu allan, gartref ac yn y lleoliad cyn-ysgol.
Cam Dau: Trafod y deunydd â phlant ac oedolion, gan fyfyrio ynghylch pa leoedd oedd yn bwysig a pha ddefnydd o le a ddaeth i’r amlwg o’r broses.
Cafodd sylwadau a ffotograffau’r plant o Gam Un eu troi’n llyfr, a bu’r ymchwilydd yn ei drafod â’r plant. Buont yn siarad am eu ffotograffau a’u sylwadau, ac yn ateb cwestiynau yn y testun am eu barn am newidiadau i’r lle yn y dyfodol.
Daeth y llyfr yn ganolbwynt dau gyfarfod byr i’r staff. Rhannodd yr ymchwilydd sylwadau’r plant o’r llyfr, ac arweiniodd hynny at drafodaeth ehangach am ffotograffau’r plant a’u gwaith creu mapiau.
Cyfarfu’r ymchwilydd â Swyddog Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar yn Dysgu drwy Dirweddau i adolygu’r deunydd. Crëwyd cynllun mawr i grynhoi’r deunydd gweledol a llafar a gynhyrchwyd gan y gwahanol adnoddau ymchwil. Trafodwyd pob un o’r adnoddau yn eu tro er mwyn datgelu themâu a ddeuai i’r amlwg o’r adolygiadau gyda’r plant a’r ymarferwyr.
Cam Tri: Penderfynu ar feysydd parhad a newid. Daeth pedwar categori i’r amlwg - lleoedd i’w cadw, lleoedd i’w hymestyn, lleoedd i’w newid a lleoedd i’w hychwanegu.
Lleoedd i’w cadw: y lindys
Câi twnnel lindys plastig mawr ei roi y tu allan yn rheolaidd. Roedd yn amlwg o’r ymweliad cyntaf bod y plant yn mwynhau’r siâp rhyfedd hwn. Fodd bynnag, roedd defnyddio’r gwahanol adnoddau ymchwil wedi pwysleisio mor bwysig oedd y darn hwn o offer i’r plant: er enghraifft, roedd deg o’r trigain o ffotograffau a ddewiswyd gan y plant yn y gweithgaredd creu llyfr yn dangos y lindys. Roedd hwn yn lle chwarae na ddylid ceisio’i newid.
Lleoedd i’w hymestyn: y tŷ
Drwy arsylwi’r plant, gwelwyd bod hwn yn adnodd allweddol iddynt. Cadarnhaodd y plant hynny drwy eu ffotograffau, y daith a’u cyfweliadau. Crybwyllodd y rhieni hefyd fod y tŷ’n lle pwysig yn y lleoliad cyn-ysgol. Fodd bynnag, dangosodd y cyfweliadau â’r ymarferwyr fod y tŷ’n achosi tensiwn. Roeddent yn teimlo’i fod yn rhy fach. Roedd y broses aml-ddull a fabwysiadwyd wedi gwneud y gwahaniaethau hynny’n amlwg. Adnabu’r adolygiad gyda’r plant, yr ymarferwyr a Dysgu drwy Dirweddau y safbwyntiau croes hyn, a chynigiodd rai atebion posibl. Roedd yr atebion yn cynnwys darparu deunyddiau adeiladu, cewyll ac estyll i’r plant er mwyn iddynt adeiladu eu strwythurau dros dro eu hunain ar y tir a oedd ar gael.
Lleoedd i’w newid: y ffens
Roedd ffotograffau a mapiau’r plant yn pwysleisio’r modd yr oedd y ffens ddiogelwch yn amlwg iawn yn y lle awyr agored. Wrth arsylwi’n agos, gwelwyd dimensiwn arall. Roedd y bylchau yn y ffens ddiogelwch yn ddigon llydan i’r plant weld trwyddynt. Byddai angen i unrhyw ateb gofio bod gadael y bylchau hyn yn bwysig, fel y gallai’r gweithgareddau sylwi ar bobl a gwylio cŵn barhau. Mae’r tri syniad sydd wrthi’n cael eu hystyried yn cynnwys ychwanegu defnyddiau dros dro at y ffens, rhoi byrddau paent ar y ffens, a sicrhau bod ysbienddrychau a thelesgopau ar gael ar gyfer edrych i’r pellter.
Lleoedd i’w hychwanegu: seddau a mannau cloddio newydd
Adnabu’r broses ymchwil leoedd y gellid eu hychwanegu at y lle awyr agored er mwyn darparu cymaint o gyfleoedd ag sy’n bosibl i’r plant fwynhau. Yn gyntaf gellid ychwanegu mwy o fannau lle gallai oedolion a phlant eistedd gyda’i gilydd. Roedd diffyg lle i hynny ddigwydd, ac eithrio’r decin. Defnyddiodd sioe sleidiau’r ‘Carped Hud’ wybodaeth ehangach y plant am leoedd yr oeddent yn hoffi eistedd ynddynt. Un posibilrwydd sy’n dod i’r amlwg o’r prosiect peilot hwn yw’r ffaith y gellid ychwanegu seddau i oedolion a phlant eistedd arnynt yn gyfforddus gyda’i gilydd o amgylch y lle chwarae.
Yn ail gellid ychwanegu mannau cloddio. Drwy arsylwi, gwelwyd mor boblogaidd oedd y pwll tywod dan do: roedd un plentyn wedi cynnwys ffotograff o’r pwll tywod dan do yn ei lyfr o leoedd pwysig yn yr awyr agored! Nid oedd y plant yn manteisio ar gyfleoedd i gloddio yn yr awyr agored yn y compost. Fodd bynnag, soniodd y rhieni fod eu plant yn hoffi cloddio yn yr awyr agored. Trafododd yr ymarferwyr y posibilrwydd o ychwanegu ardal gloddio fel nodwedd newydd yn y lle awyr agored.
Trafodaeth
Sut y gellid defnyddio’r dull hwn gyda phlant hŷn?
Set hyblyg o adnoddau ymchwil
Er ei bod yn cymryd amser, mae proses aml-ddull a chyfranogol yn galluogi plant â gwahanol sgiliau a phersonoliaethau i gyfrannu eu profiadau.
Mae hynny’n berthnasol i blant hŷn, gan gynnwys rhai ag anghenion arbennig. Gellir addasu’r adnoddau y byddwch yn dewis eu defnyddio yn unol â’r plant y byddwch yn gweithio gyda nhw. Er enghraifft, mewn prosiect yn y dyfodol, mae’r tîm ymchwil yn gobeithio defnyddio’r dull Mosaig gyda phlant 4, 7 a 12 oed. Bydd y plant 12 oed yn defnyddio camerâu fideo yn hytrach na chamerâu na ellir eu defnyddio fwy nag unwaith. Tybed a allai’r plant hŷn gynnal y cyfweliadau â’u cyfoedion?
‘Arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain’
Gall yr athroniaeth sy’n sail i’r dull Mosaig, sef mai’r plant yw’r ‘arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain’, fod yn berthnasol i blant o bob oed. Cydnabuwyd hynny gan Iona a Peter Opie a fu’n gweithio o’r 1950au ymlaen ac a ysgrifennodd y clasur ‘The Lore and Language of Schoolchildren’.
Cydnabu’r ddau yr arbenigedd dan sylw gan nodi fel a ganlyn:
Pan fo’r plentyn ysgol modern o’r golwg ac ar ei ben ei hun, ymddengys ei fod yn gyfoethog o ran iaith, yn hyddysg mewn arfer, yn parchu manylion ei godau ei hun, ac yn awdurdod gweithredol ar ffyrdd traddodiadol o’i ddifyrru ei hun.3 [Cyfieithiad]
Felly, wrth gynllunio lleoedd awyr agored, bydd angen dechrau drwy edrych ar blant, nid drwy edrych ar gatalog. Mae’n demtasiwn i ymarferwyr wneud cais am grant posibl drwy edrych ar ddarnau newydd o offer mewn catalog. Fodd bynnag, y newidiadau sy’n rhoi’r boddhad mwyaf yw’r rhai sy’n defnyddio barn a phrofiadau plant ifanc yn fan cychwyn.
Mae gwrando’n ymwneud â dysgu
Nid oes angen i’r dull hwn o wrando gael ei ystyried yn weithgaredd ychwanegol sy’n defnyddio amser gwerthfawr y cwricwlwm, oherwydd mae’n ymwneud â dysgu. Ar un lefel, ceir potensial i gyflawni nodau dysgu drwy weithio gyda phlant yn y modd hwn: er enghraifft, datblygu sgiliau siarad a gwrando drwy ddefnyddio’r camerâu. Ar lefel ddyfnach, bydd y plant yn cymryd rhan mewn proses weithredol o greu ystyr.
Camau nesaf
Dysgu drwy Dirweddau: Prosiect 'Space to Grow' Caint
Ar ôl cwblhau’r prosiect ymchwil ac ystyried ei ganfyddiadau, mae Rheolwr y lleoliad cyn ysgol wedi cyfarfod â Dysgu drwy Dirweddau i lunio cynllun gweithredu a fydd yn sail ar gyfer datblygu’r lle awyr agored.
Uned Ymchwil Thomas Coram: Prosiect 'Spaces to Play'
Ar ôl cwblhau’r prosiect peilot yn llwyddiannus, mae Sefydliad Bernard van Leer wedi ariannu prosiect tair blynedd i weithio gyda phlant ifanc, penseiri, a rheolwyr ac ymarferwyr y blynyddoedd cynnar. Bydd hynny’n ymestyn y dull Mosaig er mwyn pwyso a mesur sut y gellir ystyried safbwyntiau plant ifanc mewn ‘adeilad newydd sbon’ ac yn y sefydliadau hynny ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n bwriadu newid yr amgylchedd dan do neu’r amgylchedd awyr agored.
Casgliad
Mae’r prosiect peilot wedi dangos sut y gall barn a phrofiadau plant ifanc yng nghyswllt eu hamgylchedd awyr agored chwarae rhan sylweddol mewn prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch newid. Mae plant tair a phedair oed o wahanol allu wedi dangos eu bod yn gallu cofnodi eu lle chwarae’n gymwys.
Diolchiadau
Hoffem ddiolch i’r plant, yr ymarferwyr a’r rhieni sydd wedi gwneud cyfraniad unigryw i’r prosiect hwn. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Ymddiriedolaeth Carnegie y Deyrnas Unedig a Sefydliad Bernard van Leer, a sicrhaodd fod y fenter gydweithredol hon yn bosibl.
Cafodd llyfr am yr ymchwil hwn, Spaces to Play: More Listening to Young Children using the Mosaic Approach, ei gyhoeddi gan Alison Clark a Peter Moss yn nhymor yr hydref, 2004. Manylion cyswllt i gael gwybodaeth: a.clark@ioe.ac.uk
Troednodiadau
1. Clark, A. a Moss, P. (2001) Listening to young children: the Mosaic approach. London: National Children’s Bureau for the Joseph Rowntree Foundation.
2. Parker, C. (2001) ‘When is she coming back?’ yn Abbott, L. a Nutbrown, C. (goln) Experiencing Reggio Emilia: implications for pre-school provision. Buckingham: Open University Press.
3. Opie, P. ac Opie, I. (1959) The Lore and Language of School Children. Oxford: Clarendon Press.


