Ffyrdd o ymgynghori â phlant dan 5 oed
1. Ffyrdd o ymgynghori â phlant ynghylch yr hyn yr hoffent chwarae ag ef
| Nifer y plant: | pob plentyn |
| Oedran addas: | 7 mis i 5 mlwydd oed (mor ifanc ag sy’n bosibl) |
| Amser: | ni cheir cyfyngiad amser oherwydd gall fod yn weithgaredd rhydd |
| Amgylchedd: | dan do / awyr agored |
Sut mae’n gweithio?
- Mae’r staff yn paratoi’r amgylchedd yn llwyr, cyn i’r plant gyrraedd a pharu’r teganau a’r gweithgareddau â chardiau ffotograffau
- Caiff y cardiau ffotograffau o’r teganau a’r gweithgareddau eu rhoi mewn blwch chwarae
- Pan fydd y plant yn cyrraedd y feithrinfa, gallant ddewis yr hyn yr hoffent chwarae ag ef
- Gwneir hyn drwy ofyn i’r plant ddewis y ffotograff o’r tegan neu’r gweithgaredd a’i osod ar y byrddau arddangos
- Yna, mae’r plentyn yn mynd i’r ystafell neu allan i’r awyr agored ac yn chwarae â’r tegan neu’r gweithgaredd
- Mae hwn yn weithgaredd rhydd, ac fe’i cynigir drwy gydol y dydd
- Rhoddir dewis o deganau i’r babis hefyd, ac os ydynt yn pwyntio at eitemau penodol, gellir pasio’r teganau i’r plant
Beth y bydd arnoch ei angen?
- Teganau wedi’u labelu mewn blychau ac ar lefel taldra’r plant (ar gyfer y plant hŷn)
- Dewis o ratlau a theganau babis i’r plant sydd rhwng 7 mis a 12 / 14 mis oed
Y plentyn sy’n arwain y gweithgaredd hwn, ac mae’n galluogi’r staff i ryngweithio mwy â’r gwaith datblygu a chynllunio. Mae’r plant yn gwybod nad oes gwahaniaeth os nad ydynt am gymryd rhan, ond mae’r staff wrth law i annog a chanmol rhag ofn mai diffyg hyder yn unig yw’r broblem. Gall y plant hŷn dynnu lluniau o’r amgylchedd, dan do ac yn yr awyr agored.
Darparwyd y gweithgaredd gan Feithrinfa Ddydd Prifysgol Caerdydd
2. Ffyrdd o ymgynghori â phlant ynghylch prynu offer / teganau newydd
| Nifer y plant: | pob plentyn |
| Oedran addas: | 18 mis a hŷn (mor ifanc ag sy’n bosibl) |
| Amser: | 20 i 30 munud |
| Amgylchedd: | dan do / awyr agored |
Sut mae’n gweithio?
- Dangosir lluniau o offer newydd i’r plant, megis:- teganau pen bwrdd - Lego a brics bach pigog
- Rhoddir ‘smotiau gludiog’ i’r plant
- Mae’r staff yn egluro’r gweithgaredd wrthynt, sef bod y feithrinfa’n gobeithio prynu offer newydd iddynt
- Dylai’r plant osod y smotiau gludiog ar y tegan sydd orau ganddynt
- Bydd y tegan â’r nifer fwyaf o smotiau’n cael ei brynu, a bydd y staff yn adrodd yn ôl wrth y plant
Beth y bydd arnoch ei angen?
- Ffotograffau o’r teganau yr ydych am eu prynu
- Smotiau gludiog
Bydd plant yn hoffi dewis teganau / offer / adnoddau, oherwydd bod hynny’n rhoi ymdeimlad o berchnogaeth iddynt. Rydym wedi defnyddio cardiau enwau neu wynebau hapus / trist yn lle smotiau hefyd.
Darparwyd y gweithgaredd gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru
3. Ffyrdd o ymgynghori â phlant gan ddefnyddio pypedau
| Nifer y plant: | 6 i 8 o blant |
| Oedran addas: | 2 flwydd oed a hŷn |
| Amser: | 20 munud |
| Amgylchedd: | dan do yn ystod amser cylch |
Sut mae’n gweithio?
- Yn ystod amser cylch, cyflwynwch byped a’i roi ar gadair
- Mae’r staff yn cyflwyno’r pyped i’r plant
- Maent yn dechrau drwy ofyn cwestiynau i’r pyped, megis:-
- o Wyt ti’n hoffi ein meithrinfa?
- o Wyt ti’n hoffi ein cornel lyfrau?
- o Wyt ti’n hoffi ein byrddau arddangos?
- Mae’r pyped yn ymateb drwy ysgwyd ei ben
- Gall y plant gymryd rhan a gofyn cwestiynau i’r pyped, a bydd y staff ar yr un pryd yn gofyn yr un cwestiwn yn ôl i’r plentyn
- Caiff hynny ei gofnodi a’i drafod â’r plentyn yn unigol eto
Beth y bydd arnoch ei angen?
- Pyped
- Rhestr o gwestiynau
- Papur a phin ysgrifennu / papur nodiadau gludiog / peiriant recordio llais i gofnodi
Mae hwn yn weithgaredd gwych i sicrhau bod y plant yn datblygu sgiliau iaith. Efallai y bydd rhai plant yn fwy cyfforddus wrth fynegi eu barn yn y ffordd hon nag wrth ymateb i gwestiynau uniongyrchol. Gallant fynegi eu teimladau mewn ffyrdd gweledol yn hytrach nag ar lafar.
Yn ogystal, buom yn cynnal gweithgaredd chwarae rôl gyda dau byped yn siarad â’i gilydd, gan gynnwys y plant drwy ofyn cwestiynau tebyg iddynt. Eto, mae hwn yn weithgaredd gwych i ddatblygu sgiliau siarad.
Darparwyd y gweithgaredd gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru
4. Ffyrdd o ymgynghori â phlant ynghylch bwyd i’r feithrinfa, drwy weithgaredd celf a chrefft
| Nifer y plant: | 6 mewn grŵp |
| Oedran addas: | 18 mis a hŷn |
| Amser: | 20 i 30 munud |
| Amgylchedd: | dan do wrth fwrdd neu ar y llawr |
Sut mae’n gweithio?
- Dylid paratoi grid sy’n dangos dyddiau’r wythnos ac amseroedd prydau bwyd, h.y. brecwast; cinio; te; byrbrydau
- Mae’r plant yn edrych drwy gylchgronau ac ar luniau o wahanol brydau bwyd iach, ac maent yn torri lluniau o’r prydau bwyd y maent yn eu hoffi
- Yna, mae’r plant yn gludo’r lluniau ar y gridiau i ddangos pa brydau bwyd y byddent yn hoffi eu cael ar wahanol adegau o bob dydd
- Yna, caiff y grid ei roi i’r cogydd a fydd yn ailedrych ar fwydlen y feithrinfa
Beth y bydd arnoch ei angen?
- Grid wedi’i baratoi er mwyn gludo lluniau arno
- Siswrn a glud
- Cylchgronau a lluniau o brydau bwyd a byrbrydau iach
Darparwyd y gweithgaredd gan Feithrinfa Little Angels, Caerdydd
Mae’n datblygu sgiliau iaith, sgiliau mathemateg a sgiliau cydsymud rhwng y dwylo a’r llygaid, ac mae hefyd yn hybu Bwyta’n Iach pan fo’r plant yn ifanc. Mae’n ffordd o ddarparu ar gyfer anghenion y plentyn. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau i flasu’r prydau bwyd newydd, ac rydym wedi datblygu’r gweithgaredd ymhellach drwy gyflwyno gêmau megis canfod parau a chyfrif.


