Cymerwch ran
Yn yr adran hon o'r wefan gallwch gael rhagor o wybodaeth a deunyddiau er mwyn dysgu sut y mae helpu plant ifanc i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
Yma cewch wybodaeth am sut i annog cyfranogiad ar lefel feithrin drwy gemau, cynlluniau penodol, addysgu a dysgu, a'r cwricwlwm. Gellir gwneud hyn drwy ddulliau anffurfiol a hwyliog, ond hefyd drwy brosesau fel amser cylch, fforymau dosbarth a chynlluniau cyfeillio.
Rhowch wybod i ni pa bethau yr ydych chi'n ei wneud i annog a chefnogi cyfranogiad.


