Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Gwrando a dewis (sesiwn 20 munud, plant dan 4 oed)

Cyflwyniad (5 munud)

  • Ein cyflwyno ein hunain a dweud o ble’r ydym yn dod
  • Egluro ein bod wedi dod â rhai pypedau gyda ni, a’n bod ni’n mynd i chwarae gêm gyda nhw am Wrando a Dewis

Gwrando….a dewis

  • “I ddechrau, r’yn ni’n mynd i siarad am Wrando. R’yn ni’n defnyddio ein clustiau i wrando [gafael yn ein clustiau – beth am i ni i gyd roi cynnig ar wneud hyn – pan fydda’ i’n dweud ‘Gwrando’, dylai pawb afael yn eu clustiau”].
  • Mae’n bwysig iawn bod pobl yn gwrando [gafael yn eu clustiau] ar blant. R’yn ni’n mynd i ddefnyddio’r pypedau i ddangos i chi. R’yn ni’n mynd i ofyn i chi a ydych chi’n credu bod pobl wedi gwrando [gafael yn eu clustiau] ar blant yn ein sioe bypedau. Os ydych chi’n meddwl eu bod nhw, ewch i sefyll wrth yr Wyneb Hapus. Os ydych chi’n meddwl nad ydyn nhw, ewch i sefyll wrth yr Wyneb Trist. Dylech ymarfer hynny gyda nhw – a ydych chi’n hoffi sudd oren? YDYN / NAC YDYN PAM?

1. Pyped sy’n oedolyn a phyped sy’n fachgen (Meddyg a phlentyn mewn gwely mewn ysbyty, yn hapus, yn edrych ar ei gilydd, yn sgwrsio â’i gilydd ac yn wynebu ei gilydd) “Mae’r bachgen bach hwn yn y gwely mewn ysbyty. Meddyg yw hwn sy’n eistedd wrth ei ymyl. Ydych chi’n credu bod y meddyg yn gwrando ar y bachgen bach?
YDYN / NAC YDYN PAM?

2. Dau byped sy’n oedolion a phyped sy’n ferch (Dau oedolyn yn sefyll wrth ymyl ei gilydd, yn sgwrsio â’i gilydd ac yn wynebu ei gilydd. Mae’r plentyn wrth ymyl un ohonynt, yn neidio i fyny ac i lawr ac yn ceisio cael eu sylw) “Mam yw hon yn siarad â deintydd am ddannedd y ferch fach. Mae’r ferch fach wrth eu hymyl. Ydych chi’n credu eu bod nhw’n gwrando ar y ferch fach? YDYN / NAC YDYN PAM?

3. Un pyped sy’n oedolyn ac un pyped sy’n blentyn (Mam a merch yn eistedd gyda’i gilydd yn edrych ar lyfr lliwio ac yn gweithio arno gyda’i gilydd) “Mae’r ferch fach hon gyda’i mam. Maent yn gweithio ar lyfr lliwio. Ydych chi’n credu bod y fam yn gwrando ar y ferch fach?
YDYN / NAC YDYN PAM?

  • Da iawn, r’ych chi i gyd wedi gwneud yn dda iawn. Roeddech chi i gyd yn edrych i weld a oedd y bobl yn gwrando [gafael yn eu clustiau] ar y plant yn y sioeau pypedau. Roeddech chi i gyd yn dewis a oedd y bobl yn gwrando arnynt ai peidio. Dewisodd rhai ohonoch yr Wyneb Hapus a dewisodd rhai ohonoch yr Wyneb Trist. R’yn ni am ofyn un cwestiwn arall i chi – ydych chi’n credu y dylai pobl wrando ar blant? YDYN / NAC YDYN PAM?
  • R’yn ni am orffen nawr â Gêm Wrando – ydych chi’n gwybod sut i chwarae Mae Seimon yn dweud….
 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website