Enghreifftiau o arfer da gyda phlant dan 5 oed
Gweithgareddau
Defnyddio dis – llun o weithgaredd / teitl cân ar yr wyneb (dis gwag ar gael gan Consortium).
Bwrdd lluniau o weithgareddau sydd ar gael / enwau’r plant ar felcro, er mwyn i’r plant ddewis gweithgaredd a symud eu henw i’w osod wrth ymyl y gweithgaredd yr hoffent ei wneud. Gwnewch yn siŵr fod y plant yn cael cyfle hefyd i ddewis peidio â chymryd rhan mewn gweithgaredd.
Dewis rhwng rhoi gwaith ar y wal i’w arddangos neu fynd ag ef adref.
Cyn prynu teganau/adnoddau newydd, gallai lleoliadau gael benthyg teganau o’r llyfrgell deganau er mwyn i’r plant roi eu barn amdanynt a gweld a hoffent eu prynu. Gellid tynnu ffotograffau o’r teganau, a gofyn i’r plant sefyll wrth y ffotograff o’r tegan yr hoffent ei gael fwyaf.
Cynnal trafodaeth / edrych ar daflenni a phosteri cyn penderfynu ble i fynd ar daith. Rhoi lluniau o weithgareddau yr hoffent eu gwneud, neu leoedd yr hoffent ymweld â nhw, mewn trefn yn ôl eu hoffter ohonynt.
Gadael i’r plant gofnodi hoff weithgareddau/llyfrau/ardaloedd drwy dynnu ffotograff. Yna, gellid defnyddio’r rhain i greu ‘llyfrau proffil’ neu lyfrau ‘Fi fy hun’, a gellid eu defnyddio’n ysgogiad i ganfod barn y plant a chadw cofnod o bethau y maent wedi’u gwneud yn y lleoliad.
Mae rhai canolfannau i deuluoedd wedi annog plant i ddatblygu llyfryn i gyflwyno plant newydd i’r feithrinfa, gan ddefnyddio rhai ffotograffau a lluniau a grëwyd gan y plant. Camera sy’n addas i blant – Little Tikes yn Woolworth - tua £60.
Pypedau – e.e. gofyn i’r plant sôn wrth tedi am eu canolfan i deuluoedd/meithrinfa ac ati.
Amser byrbryd – dewis o fyrbrydau a diodydd iach, dewis cwpan lliw, y plant yn helpu i baratoi byrbrydau, sesiwn blasu bwyd – anogir y plant i arbrofi â bwydydd newydd. Dŵr ar gael yn rhwydd i blant ac ati.
Ymgynghori
Arsylwi’r plant yn chwarae, e.e. yn ystod gweithgaredd chwarae rhydd, ble maent yn chwarae, pa ardaloedd nad yw’r plant yn eu defnyddio a pham? Gallai’r gwaith arsylwi hybu trafodaeth bellach, a gellid ei ddefnyddio i werthuso gwahanol rannau o’r lleoliad.
Gwerthuso gweithgareddau gan ddefnyddio wynebau hapus / trist.
Adnoddau i ymarferwyr
Wow! This is big... Prosiect ymchwil ar ymgynghori yn y blynyddoedd cynnar gan Play train (edrych ar farn plant/tynnu ffotograffau o ymweliadau)
Where’s My Peg? A parent and child guide to the first experiences of school ISBN 1 84187 084 6 Achub y Plant (syniadau / awgrymiadau defnyddiol ynghylch cael plant i ymgartrefu mewn lleoliadau newydd)


