Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Newyddion

04.04.2011

Deunyddiau newydd yn rhoi mwy o lais i ddisgyblion

Cafodd deunyddiau ar-lein newydd i annog mwy o bobl ifanc sy’n agored i niwed mewn ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau eu lansio gan y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis yn Adeilad y Lanfa, Bae Caerdydd ar 29. Mawrth.

Mae dros 80 o glipiau fideo byr bellach ar gael ar wefan Llais Disgyblion Cymru sy’n dangos sut gall plant a phobl ifanc gymryd mwy o ran mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Hefyd, maent yn dangos sut mae cyfranogi yn gallu gwella’r profiad a gaiff y disgybl yn yr amgylchedd dysgu a’r dysgu ei hun hefyd.

Dywedodd Huw Lewis: “Mae rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr, nid yn unig i'w profiad addysgol ond, o ran yr effaith y gall plant a phobl ifanc ei chael ar eu cymunedau hefyd.

“Mae’r deunyddiau cyffrous newydd hyn yn anfon negeseuon pwysig iawn ynghylch sut mae pobl ifanc yn hoffi dysgu a’r rôl gadarnhaol y gallant ei chwarae yn eu hysgolion a’u cymunedau ehangach os ydynt yn cael y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Cewch weld y deunyddiau newydd ar:

Mynychodd dros 80 o bobl y lansiad, gan gynnwys pobl ifanc o ysgolion arbennig yn Ne Cymru a’r Ganolbarth. Roedd y bobl ifanc yn ymfalchio yn fawr wrth weld eu llwyddiannau ar y sgrin fawr! Dywedodd un pennaeth mai dyma’r tro cyntaf yn ei gyrfa hj yr oedd ysgolion arbennig wedi cael blaenoriaeth.

Mae’r deunyddiau hyn yn ddeunyddiau byw. Gwahoddir unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion arbennig i ychwanegu at y deunyddiau fel y gellir rhannu arfer da ar draws Cymru.

Lansiad Deunyddiau Unedau Cyfeirio ac Ysgolion Arbennig: Bae Caerdydd, 29 Mawrth 2011

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website