Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Amdanon ni

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn credu bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach ynghyd â’r hawl i ddatblygu eu sgiliau a'u potensial drwy addysg. Er mwyn dangos ein bod o ddifrif, rydym wedi ymrwymo i rywbeth a elwir yn 'Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn' (CCUHP). Mae un o'r hawliau hyn ("Erthygl 12") yn dweud y dylai plant a phobl ifanc gael cyfle i roi eu barn pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt hwy.

Mae'r Tîm Cyfranogiad Disgyblion yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio er mwyn hyrwyddo a datblygu cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysgol gan ddefnyddio gwefan ddefnyddiol, gymdeithasol, sy'n llawn hwyl ac yn eu hysgogi i gymryd rhan. Nod yr adran hon o'r wefan yw rhoi'r wybodaeth a'r deunyddiau sydd eu hangen arnoch i helpu ein plant ieuengaf i chwarae rôl fwy amlwg yn eu haddysg a'u hamgylchedd.

Ar yr adran hon o'r wefan gallwch ddysgu mwy am CCUHP, beth yw cyfranogiad plant a phobl ifanc a pham ei bod yn syniad da i'w ddatblygu ynghyd â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru i gefnogi cyfranogiad plant a phobl ifanc.

Mwynhewch!
 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website