Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Ymgynghori (Ar y gweill)

Cyfle i ddweud eich dweud am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru.

BIL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL CYMRU – Rhowch eich Barn NAWR!

Bydd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn gwneud newidiadau a fydd yn effeithio ar lawer o bobl, yn enwedig y plant a’r bobl ifanc hynny a’u teuluoedd sydd eisoes mewn cysylltiad â’r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae gwasanaethau cymdeithasol yn bwysig o ran helpu plant a phobl ifanc a allai fod:

  • yn profi problemau teuluol
  • yn anabl
  • mewn trafferth gyda’r heddlu
  • yn derbyn gofal
  • mewn perygl o gael eu niweidio neu
  • yn cael gofal nad yw’n cwrdd â’u hanghenion.

Yr hyn sy’n ganolog i’r Bil yw rhoi mwy o lais a rheolaeth i bawb sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrthym beth rydych chi’n ei feddwl.

Cewch weld fersiwn gyfeillgar i blant a phobl ifanc yma:
http://wales.gov.uk/docs/dhss/consultation/120312childrency.pdf

Dylech wneud hynny cyn 1 Mehefin 2012.

 

CYNLLUN PLANT CCUHP - RHOWCH EICH BARN!

Rhywbeth y mae rhaid i Lywodraeth Cymru ei gynhyrchu o dan Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yw'r Cynllun Plant. Mae'n disgrifio beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau eu bod nhw yn rhoi sylw i hawliau plant nawr ac yn y dyfodol.

Y mae Llywodraeth Cymru am glywed beth ydych chi yn ei feddwl o'r Cynllun. Ewch at: http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/scheme/?skip=1&lang=cy i gael dweud eich dweud.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 31 Ionawr 2012.

 

YMGYNGHORIAD YNGHYLCH TYLLU COSMETIG I BOBL IFANC

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad ynghylch tyllu cosmetig i bobl ifanc a byddem yn croesawu eich sylwadau ar y materion sy’n cael eu hystyried.

Rydym ni’n ystyried cyflwyno deddf newydd a fydd yn ymdrin â’r meysydd allweddol canlynol:

  • Yr angen i riant neu warcheidwad roi ei ganiatâd (yn ysgrifenedig a thrwy fynd i’r apwyntiad tyllu) cyn i berson ifanc o dan oedran penodol gael triniaeth tyllu cosmetig (ar hyn o bryd rydym ni’n credu mai 16 ddylai’r terfyn oedran fod)
  • Cyfyngiad oedran clir ar gyfer triniaethau tyllu cosmetig personol
  • Set safonol o gwestiynau y mae’n rhaid i’r sawl sy’n rhoi’r driniaeth eu gofyn cyn i unrhyw driniaeth tyllu cosmetig gael ei rhoi.

Mae’r ddogfen ymgynghori (ynghyd â ffurflen ymateb ar-lein) ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 31 Ionawr 2012.

 

STRATEGAETHAU CYFRANOGIAD LLEOL

Y mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau yn dweud sut y dylai plant a phobl ifanc fod yn rhan o gynllunio a gwneud penderfyniadau yn eu hardal lleol. Gadewch I ni wybod beth yw eich barn am y canllawiau a sut y gallwn eu gwella!

Ymgynghori: Strategaethau Cyfranogi Lleol 0-25 (dolen allanol)

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 23 Ionawr 2012. 

 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website